Tudalen 2 o 2

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Sul 11 Rhag 2011 12:22 pm
gan Josgin
Yr un peth sy'n amlwg yw nad yw pobl Mon yn ffit i redeg pwyllgor te parti , heb son am gyngor . Dylai pawb o'r ynys foes-ymgrymu i bobl Arfon a derbyn eu ffawd yn wylaidd.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Llun 12 Rhag 2011 12:25 am
gan Duw
Mae'n wir fod cynhorwyr YM yn dwyn cywilydd ar Gymru gyfan. Sac y blydi lot o nhw. Ar dy bwynt ti Jos - oes wir angen cynifer o paper-pushers beth bynnag?
Dwi ffili gweld pam fod angen 22 rheolwr yn mhob maes. Yn sicr gall ardaloedd rhannu adnoddau ac arbenigedd. Mae llwyth o ardaloedd Cymru yn rhannu'r un demograffeg.

Hoffwn weld un awdurdod yn rhedeg y dinasoedd - Tyddewi, Abertawe a Chaerdydd :)

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Llun 19 Rhag 2011 11:30 pm
gan Seonaidh/Sioni
A phoblogaeth Tyddewi ydi?

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Llun 19 Rhag 2011 11:30 pm
gan Seonaidh/Sioni
A phoblogaeth Tyddewi ydi?

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Maw 20 Rhag 2011 2:12 pm
gan ceribethlem
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:A phoblogaeth Tyddewi ydi?

Wooooooooooooooooooooooooooooooooooosh!

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Mer 21 Rhag 2011 12:41 am
gan Duw
Stim help i rai oes e Cer?

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Mer 21 Rhag 2011 4:06 pm
gan Chickenfoot
Duw a ddywedodd:Mae'n wir fod cynhorwyr YM yn dwyn cywilydd ar Gymru gyfan. Sac y blydi lot o nhw


Dw i'm hollol gytun hefo ti ar hyn. Do, mae saga'r Cyngor wedi bod yn chwerthinllwyd dros ben yn aml iawn, ond eto dw i wedi gweithio hefo nifer o gynghorion ddigon alluog a brwdfrydig yn fy waith.
Ar y llaw arall, es i gyfarfod llawn unwaith a barodd tua 5-6 awr, a 'doedden nhw ddim hyd yn oed wedi trafod hanner yr agenda :ofn:.
Mae'n braf gweld y gwelliannau sydd wedi bod yn ddiweddar, ond dw i'n ofni fod y safiad maen nhw wedi cymeryd yn erbyn y Comisiwn Ffiniau'n mynd i ffwydro yn eu gwynebau ryw ddydd. Dw i'm yn meddwl fod y Sarge yn un oddefgar iawn.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2011 6:34 pm
gan Duw
Digon teg Chick, mae ambell cynghorwr da allan yna'n rhywle. Serch hynny, nôl i'm pwynt ar sut oes cymaint o dwlsod heb dalent am unrhyw beth heb law ffraeo a malu awyr yn gallu ein cynrychioli / rheoli? Holl bwynt democratiaeth i mi yw ein bod NI yn dweud wrthyn nhw yr hyn rydyn ni eisiau, nid y ffordd arall o gwmpas. Mae'r holl system wedi'i adeiladu felly taw pennau pop sydd yn mentro i mewn i'r swyddi.

Dylai fod adroddiad pob blwyddyn i fesur perfformiad y bobl 'ma. Sut y maen nhw wedi pleidleisio ar bob mater a pha fesurau sydd wedi'u gwthio trwodd ganddyn nhw. Yna, pleidlais ar-lain gan etholwyr i ddangos eu bodlonrwydd gyda'u perfformiad. 3 streic (anfodlonrywdd) ac allan â chi - byth i gymryd yr awennau o fewn yr etholaeth eto.

Dylai hwnna grisialu'r meddwl. Rhoi caniatâd i Tesco gael osod 5 siop lleol allan o fusnes? Anwybyddu deisebau? Gwario arian ar nonsens ddiwerth? Pethau y gorffennol o bosib.

Dyw'r cynhorwyr ddim yn atebol i ni bellach. Pam? Gorfod aros rhyw 4 blynedd neu beth bynnag yw e?