Yr Eisteddfod Genedlaethol

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Postiogan Bod » Gwe 09 Rhag 2011 10:30 pm

Dyma hi – y ffordd ymlaen.

Franchise ‘io’r Eisteddfod!

Cynnig, ar dendr, i unrhyw grŵp, gwmni, gorff neu fudiad i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol am y £300k sydd yn cael ei roi drwy grant gan gynghorau Cymru.

Gosod amodau pendant megis:
Y rheol iaith
Gwahanol sir bob blwyddyn
Lle i Orsedd Y Beirdd
Cynrychiolaeth leol
Cadwyn gyflenwi leol
Pafiliwn?
Maes?
Pabell len?
Ayyb
Yr amodau i’w gosod a’u goruchwylio gan y Bwrdd/Pwyllgor canolog.

Peidiwch â chwerthin, meddyliwch am y posibiliadau - Undeb Rygbi Cymru, Ffemwyr ifanc, TUC, Dwr Cymru diawl Tesco hyd yn oed yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, cymryd y risg a’r elw/colled.

Rhaid cyfaddef bod yr EG wedi mynd yr un fath bob blwyddyn. Maes carafannau/pebyll, maes B, maes yr eisteddfod, maes C, adref, diolch yn fawr.

Meddyliwch yr amrywiaeth, y gwahaniaeth rhwng eisteddfod wedi 'i chynllunio gan yr FUW ac un wedi ei chynllunio gan un o’r undebau llafur.

Mi fyddai’n ddifyr ei drafod yn byddai? Bownsio’r syniad o gwmpas ychydig, dod o hyd i’r tyllau.
Bod
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 09 Rhag 2011 1:08 pm

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron