Tudalen 1 o 1

Oes rhywun arall wedi cael digon o'r holl faneri Prydeinig?

PostioPostiwyd: Sad 02 Meh 2012 9:25 pm
gan JVD33
Wrth gerdded o amgylch Abertawe heddiw gwelais i ryw 50 tŷ gyda baneri Prydeinig, ac o leuaf un faner ar BOB siop. Man a man i ni gyfaddef bo'ni wedi cwpla fel cenedl. Roni'n teimlo fel rhwygo nhw bant. Mae'n amlwg bod neb braidd yn ninasoedd mawr Cymru yn malio dim am ein diwylliant NI nag am yr Holocost Prydeinig a ddigwyddodd 1500 o flynyddoedd yn ôl. Roni'n teimlo fel gweiddi arnyn nhw bod dim siwd beth â phrydeindod; dyw hynny heb fodoli ers ymadawiad y Rhufeiniad o Brydain. Ond ffyliaid anaddysgiedig yw'r rhan fywaf ohonynt sy'n hollol anwybyddus o'u hanes.

Beth sy'n fy ngwylltio yw'r ffaith na welech chi fyth llu o ddreigiau coch yn y ddinas ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Dim ond cwyno ydw i. Dwi'm yn disgwyl i ddim byd newid.

Re: Oes rhywun arall wedi cael digon o'r holl faneri Prydein

PostioPostiwyd: Sad 02 Meh 2012 10:12 pm
gan ap Dafydd
Ond mae'n y Jiwbili!

Duw _gadwo_ ei Mawrhydi!

Ffedog y bwtshiar a'r cyfan...

hwyl

Ffred

Re: Oes rhywun arall wedi cael digon o'r holl faneri Prydein

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2012 10:15 am
gan tommybach
JVD33 a ddywedodd:Wrth gerdded o amgylch Abertawe heddiw gwelais i ryw 50 tŷ gyda baneri Prydeinig, ac o leuaf un faner ar BOB siop. Man a man i ni gyfaddef bo'ni wedi cwpla fel cenedl. Roni'n teimlo fel rhwygo nhw bant. Mae'n amlwg bod neb braidd yn ninasoedd mawr Cymru yn malio dim am ein diwylliant NI nag am yr Holocost Prydeinig a ddigwyddodd 1500 o flynyddoedd yn ôl. Roni'n teimlo fel gweiddi arnyn nhw bod dim siwd beth â phrydeindod; dyw hynny heb fodoli ers ymadawiad y Rhufeiniad o Brydain. Ond ffyliaid anaddysgiedig yw'r rhan fywaf ohonynt sy'n hollol anwybyddus o'u hanes.

Beth sy'n fy ngwylltio yw'r ffaith na welech chi fyth llu o ddreigiau coch yn y ddinas ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Dim ond cwyno ydw i. Dwi'm yn disgwyl i ddim byd newid.


Rwy'n cytuno. Mae'r hunaniaeth Cymreig wedi gwanhau shwd cymaint yn yr ardaloedd yma fi'n credu bod hi'n deg i alw nhw'n Saeson erbyn hyn :?

Re: Oes rhywun arall wedi cael digon o'r holl faneri Prydein

PostioPostiwyd: Llun 11 Meh 2012 5:05 pm
gan SbecsPeledrX
JVD33 a ddywedodd:Wrth gerdded o amgylch Abertawe heddiw gwelais i ryw 50 tŷ gyda baneri Prydeinig, ac o leuaf un faner ar BOB siop.


Oedd y jerks yn chwarae adre te? Oni'n meddwl bo'r tymor drosodd!

Re: Oes rhywun arall wedi cael digon o'r holl faneri Prydein

PostioPostiwyd: Gwe 18 Ion 2013 10:20 pm
gan rhiannon548
Y peth trist am hyn oll yw fod nifer o bobl yn fy ngwaith heddi (mewn ysgol gynradd hollol gymraeg) wedi synnu fy mod yn gresynu fod baneri Jac yr Undeb yn cael eu harddangos, a'r cwestiwn yr oeddent yn ei ofyn oedd "pam wyt ti'n gwrthwynebu?" "beth mae'r teulu brenhinol wedi neud i ti a pham nad wyt am fod yn rhan o Brydain?" Yn amlwg dydy'r bobl yma ddim yn hyddysg yn hanes Cymru. Anwybodaeth a difaterwch llwyr! Sut y medrwch byw mewn gwlad heb wybod eu hanes??

Re: Oes rhywun arall wedi cael digon o'r holl faneri Prydein

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2013 1:25 am
gan Gorwythdroed
Ni ddewisasom fod yn rhan o Brydain!