Tudalen 1 o 1

Leighton Andrews

PostioPostiwyd: Maw 25 Meh 2013 6:08 pm
gan Duw
Achos i ddathlu neu galaru?

Er gwaethaf y pwysau ychwanegol y mae wedi rhoi - yn anuniongyrchol ar athrawon - trwy fygwyth Awdurdodau Lleol, dwi'n teimlo ychydig o siom gan roedd yn wleidydd a oedd yn ceisio 'gwneud' - a gwneud am y rhesymau cywir - nid potsan er mwyn potsan. Roedd gweledigaeth ganddo. Serch hynny, doeddwn i ddim pob tro yn cytuno gyda'i areitheg.

Unhryw un â barn i'w rhannu?

Re: Leighton Andrews

PostioPostiwyd: Maw 25 Meh 2013 7:31 pm
gan Dewi Erwan
Beth oedd y pethau a wnaeth Leighton Andrews ar gyfer achub yr iaith? Oedd o'n caru ei wlad a'i ddiwylliant neu'n rhywbeth tebyg i'r Prif Weinidog 'na sy gennyn ni, poeni dim ond am ei gyflog?

Re: Leighton Andrews

PostioPostiwyd: Mer 26 Meh 2013 12:12 am
gan Duw
Hmm. Dwi ddim yn gwybod pa mor effeithiol roedd e yn gyffredinol wrth hybu'r Gymraeg, ond wedi cwrdd ag e sawl gwaith, daeth ar draws fel person gwybodus a deallus iawn - eitha hoffi'r boi - er nid yn cytuno gyda'i wleidyddiaeth. Cefnogol iawn i'r Gymraeg mewn meysydd digidol - gweld beth mae haciaith ac ati'n dweud amdano.

Dwi'n meddwl ei fod yn hawdd pardduo gwleidyddion (nid dweud dyna beth wyt ti'n ei wneud) - mae'n nhw'n targedau hawdd - ond efallai bod Mr. Andrews wedi dechrau meddwl am ei hun fel person 'indispensible', a gwnaeth hynny arwain at benderfyniadau rhyfedd iawn (mynd yn erbyn polisiau'r blaid parthed yr ysbyty a'r ysgol).

Re: Leighton Andrews

PostioPostiwyd: Mer 26 Meh 2013 12:25 am
gan Hen Rech Flin
Rwy'n cael anhawster efo'r naratif bod Leighton Andrews yn un o fawrion y Cynulliad, y gweinidog galluocaf ac ati sydd i'w gweld yn y cyfryngau ac ar y we.

Mae Leighton yn dod drosodd fel un o'r bobl fwyaf annwyl yn y cynulliad ac yn sicr mae o'n gallu siarad gêm dda, ond prin yw'r dystiolaeth ei fod o'n gallu chware gêm dda.

Gyda'r eithriad o ail raddio canlyniadau TGAU Saesneg llynedd rwy'n methu meddwl am ddim byd arall mae o wedi gwneud.Ei ymateb arferol i bob problem sydd wedi glanio ar ei ddesg bu osgoi ymateb trwy sefydlu gweithgor, ymgynghoriad neu bwyllgor, ymateb i osgoi problem yn hytrach na mynd i'r afael a'r broblem.

Trwy ymddiswyddo mae Leighton wedi gwneud be mae o'n gwneud orau; osgoi'r cyfrifoldeb am broblemau sy'n wynebu'r gwasanaethau iechyd ac addysg yn ei etholaeth. Y lle gorau iddo gael dylanwad ar ysbytai ac ysgolion y Rhondda oedd wrth y bwrdd cabinet; os nad oes modd delio a'r problemau heb israddio ysbyty a chau ysgolion - trwy fod yng Nghanol y trafodaethau byddai wedi cael y wybodaeth gorau i brofi hynny i'w etholwyr ac i amddiffyn ei Blaid. Y lle gwaethaf i gael dylanwad ac atebion yw trwy dal placard ar ochr y lôn.

Re: Leighton Andrews

PostioPostiwyd: Mer 26 Meh 2013 11:00 pm
gan Duw
os nad oes modd delio a'r problemau heb israddio ysbyty a chau ysgolion - trwy fod yng Nghanol y trafodaethau byddai wedi cael y wybodaeth gorau i brofi hynny i'w etholwyr ac i amddiffyn ei Blaid. Y lle gwaethaf i gael dylanwad ac atebion yw trwy dal placard ar ochr y lôn.


Pwynt da.