gan Dewyrth Jo » Iau 20 Chw 2014 11:11 am
Deng mlynedd yn ôl roedd y wefan hon ar ei hanterth - yn fwrlwm o drafod a ffraethineb - pwy fyddai wedi meddwl bryd hynny y byddai pethau wedi mynd mor ddistaw. Lle mae pawb? Roedd llawer o'r bwrlwm yn ymwneud ag ymchwydd ar y pryd yn y Sîn Roc Gymraeg sydd hefyd wedi mynd lawr rhyw dîn. Pwy sy'n cofio Abri yng Nghaerdydd, nosweithiau'r Relwe ym Mangor a'r nosweithiau yn Nhop y Cwps? Beth sydd wedi dod yn eu lle? Gigs ym Methesda a gigs Mentrau Iaith sy'n cael eu hysbysebu'n wael a'u mynychu yn hyd yn oed gwaeth. A lle mae'r pwysigion oedd yn mynnu cael eu lleisiau wedi'u clywed ac ennill pob dadl ar maes-e? Ar twitter, gydag amryw yn Twitio neu'n Trydaru (ych a fi) yn Saesneg er mwyn sicrhau fod cymaint o bobl a phosib yn clywed eu barn bwysig. Pwy sy'n cofio'r wythnos pan gafodd Nic Dafis Lond Bol eto ym mis Hydref 2004? Roedd nifer yn cael withdrawals ac eraill yn cymharu'r digwyddiad gyda Medi'r 11. Pwy fyddai'n tristhau pe bai maes-e yn diflannu heddiw? Pwy fyddai'n sylwi? 10 mlynedd yn ôl, hyd yn oed 7 mlynedd yn ôl, byddai'r neges hon, fel pob neges arall, wedi derbyn ymateb o blaid ac yn erbyn o fewn eiliadau? Sgwn i os fydd unrhyw un yn ymateb o gwbl heddiw? Tawelwch lle bu trafod, gwagle lle bu gwrthdaro.