10 mlynedd yn ôl

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

10 mlynedd yn ôl

Postiogan Dewyrth Jo » Iau 20 Chw 2014 11:11 am

Deng mlynedd yn ôl roedd y wefan hon ar ei hanterth - yn fwrlwm o drafod a ffraethineb - pwy fyddai wedi meddwl bryd hynny y byddai pethau wedi mynd mor ddistaw. Lle mae pawb? Roedd llawer o'r bwrlwm yn ymwneud ag ymchwydd ar y pryd yn y Sîn Roc Gymraeg sydd hefyd wedi mynd lawr rhyw dîn. Pwy sy'n cofio Abri yng Nghaerdydd, nosweithiau'r Relwe ym Mangor a'r nosweithiau yn Nhop y Cwps? Beth sydd wedi dod yn eu lle? Gigs ym Methesda a gigs Mentrau Iaith sy'n cael eu hysbysebu'n wael a'u mynychu yn hyd yn oed gwaeth. A lle mae'r pwysigion oedd yn mynnu cael eu lleisiau wedi'u clywed ac ennill pob dadl ar maes-e? Ar twitter, gydag amryw yn Twitio neu'n Trydaru (ych a fi) yn Saesneg er mwyn sicrhau fod cymaint o bobl a phosib yn clywed eu barn bwysig. Pwy sy'n cofio'r wythnos pan gafodd Nic Dafis Lond Bol eto http://morfablog.com/llond-bol-eto/ ym mis Hydref 2004? Roedd nifer yn cael withdrawals ac eraill yn cymharu'r digwyddiad gyda Medi'r 11. Pwy fyddai'n tristhau pe bai maes-e yn diflannu heddiw? Pwy fyddai'n sylwi? 10 mlynedd yn ôl, hyd yn oed 7 mlynedd yn ôl, byddai'r neges hon, fel pob neges arall, wedi derbyn ymateb o blaid ac yn erbyn o fewn eiliadau? Sgwn i os fydd unrhyw un yn ymateb o gwbl heddiw? Tawelwch lle bu trafod, gwagle lle bu gwrthdaro.
Dewyrth Jo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Iau 15 Gor 2004 10:11 am

Re: 10 mlynedd yn ôl

Postiogan sian » Iau 20 Chw 2014 11:38 am

Ie - dyma fi - efallai nad mewn eiliadau - ond mewn munudau.
Roedd maes-e yn gymuned go iawn. Ro'n i'n hoff o'r rhan fwya o'r cyfranwyr - hyd yn oed y rhai nad o'n i'n cytuno â nhw..
Pobl maes-e yw lot fawr o'r bobl rwy'n eu dilyn ar twitter a thipyn go lew o'n ffrindiau facebook.
Byddai llawer o sgyrsiau twitter gymaint gwell ar maes-e.
Croeso i bawb yma o hyd!
xx
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 10 mlynedd yn ôl

Postiogan Dylan » Iau 20 Chw 2014 11:53 pm

Mae negesfyrddau wedi dirywio fel fformat yn gyffredinol, felly dydi Maes-E ddim yn unigryw. Ond dw i ddim yn siwr pam. Mae'n fformat llawer iawn mwy hwylus na gwefannau cymdeithasol. Yr unig ffordd i adfywio'r lle ydi i griw o bobl sbarduno trafodaethau yma (a nid dim ond meta-sgyrsiau sy'n trafod tranc y Maes ei hun). Ti gyntaf!
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: 10 mlynedd yn ôl

Postiogan Dewyrth Jo » Gwe 21 Chw 2014 12:31 pm

Un ffordd fyddai defnyddio twitter i boblogeiddio #diwrnodmaes-e ar 23 Medi 2014 i nodi deng mlynedd ers y diwrnod cofiadwy pan ysgwydwyd y byd seibr Cymraeg i'w seiliau gan y newyddion fod maes-e wedi'i dynnu i lawr.
Dewyrth Jo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Iau 15 Gor 2004 10:11 am

Re: 10 mlynedd yn ôl

Postiogan ceribethlem » Sad 08 Maw 2014 1:16 pm

Dewyrth Jo a ddywedodd:Un ffordd fyddai defnyddio twitter i boblogeiddio #diwrnodmaes-e ar 23 Medi 2014 i nodi deng mlynedd ers y diwrnod cofiadwy pan ysgwydwyd y byd seibr Cymraeg i'w seiliau gan y newyddion fod maes-e wedi'i dynnu i lawr.

Hwn yn syniad da. Fi'n siwr gyda chriw bach digon bywiog byddai modd atgyfodi'r maes yn agos i'w hanterth.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron