Methiant Plaid Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Methiant Plaid Cymru

Postiogan Macsen » Gwe 05 Rhag 2014 9:52 am

Dros y misoedd diwethaf mae'r SNP, UKIP a hyd yn oed y Gwyrddion wedi cymryd camau mawr tuag at gynnyddu eu cefnogaeth, a maent yn gobeithio ennill seddi ychwanegol yn yr Etholiad ym mis Mai.

Yr unig blaid canolig ei faint sydd heb weld cynnydd o'r fath yw Plaid Cymru. Os na all y blaid dorri drwodd yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol, gyda popeth yn mynd 'o'i phlaid' fel petai, pryd y mae disgwyl iddi wneud hynny? Pam nad yw'r blaid yn apelio at ragor o bobl? Dyma ambell i ddyfaliad gen i:

- Mae'r blaid yn rhy adain chwith, ac wedi mynd yn gynyddol felly dan Leanne Wood. Mae nifer o'u polisiau yn foesol gyfiawn ond efallai braidd yn ddelfrydyddol, ac y byddai rhywbeth sy'n agosach at y tir canol yn wleidyddol yn apelio'n fwy at y boblogaeth. Fel y mae poblogrwydd cynnyddol UKIP yn y Cymoedd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn ei ddangos, nid yw tra-arglwyddiaeth Llafur yng Nghymru o reidrwydd yn golygu bod hon yn wlad adain chwith.

- Mae yna ganfyddiad mai plaid i siaradwyr Cymraeg yw hi, ac mewn gwlad lle mae 1/5 o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, mae hynny'n golygu na fydd hi byth yn blaid y mwyafrif. Mae'r SNP yn llwyddo am mai cenedlaetholdeb sifig, nid 'ethnig' (gan gymryd bod hyn yn cynnwys iaith a diwylliant yn ogystal) sydd ganddi. Mae gan Plaid Cymru bleidlais graidd gadarn ond does dim llawer o obaith mynd y tu hwnt iddo.

- Mae gwendid y cyfryngau yng Nghymru yn golygu nad yw'r blaid yn cael unrhyw sylw mewn etholiadau cyffredinol. Mae hwn yn broblem y mae'r Gwyrddion a'r SNP wedi llwyddo i'w oresgyn i raddau. Beth all Plaid Cymru, yn ymarferol, ei wneud am hyn? A yw'n bryd i genedlaetholwyr sefydlu papur newydd cenedlaethol Saesneg, a la y National yn yr Alban?

Unrhyw syniadau eraill? :gwyrdd:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Methiant Plaid Cymru

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 05 Rhag 2014 11:11 am

Dwi'n meddwl fod Plaid Cymru ar lefel genedlaethol yn cael ei harwain yn bwerus ac yn effeithiol. Dwi'n meddwl fod polisiau swyddogol y Blaid hefyd yn rai adeiladol a digon radical heb fod yn afrealistig.

Y broblem hyd y gwela i ar hyn o bryd yw diffyg disgyblaeth a cysondeb polisi o fewn y Blaid. Er enghraifft, y Blaid yn Môn yn cefnogi Wylfa B tra mai polisi y Blaid yn Genedlaethol ydy gwrthwynebu Niwclear. Enghraifft arall ydy'r Cynlluniau Datblygu Lleol - y gynhadledd flynyddol yn pasio cynnig yn eu gwrthod ond Cyngor Gwynedd dan arweiniad y Blaid yn tarro ymlaen a'r cynlluniau beth bynnag.

Mae angen i bobl wybod mae polisiau'r Blaid y byddan nhw'n ei gael os fydda nhw'n pleidleisio dros y Blaid.

Yr elfen sgitsoffrenig yma dwi'n ei ofni fwyaf am y Blaid. Y syniad fod ganddi bolisiau fel gwrthblaid mewn rhannau o Gymru, ond wedyn pan mewn llwyodraeth (leol) mae ganddi bolisiau gwahanol.

Wedi dweud hyn i gyd, mi rydw i yn credu yn y Blaid yn fwy rwan nac ydw i ers 1999. Mae'n amser cyffrous dan arweiniad Leanne ac wedyn ffactorau cyffrous arall fel ail-ddyfodiad Adam Price.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Methiant Plaid Cymru

Postiogan Macsen » Gwe 05 Rhag 2014 11:36 am

Diolch am y cyfraniad Rhys. Roeddwn i wedi dechrau anobeithio am maes-e pan nad oedd pwnc fel hyn hyd yn oed yn denu trafodaeth!

Rwy'n cytuno dy fod ti wedi rhoi dy fys ar bwynt pwysig, ond eto alla i ddim cytuno mai anghysondeb polisi sydd wedi atal twf ym mhoblogrwydd y Blaid. Wedi'r cwbl mae pleidiau megis y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud llwyddiant mawr o addasu eu polisiau yn ol yr amgylchiadau lleol am ddegawdau, nes iddynt gael eu dal allan ar y llwyfan cenedlaethol. A phwy all ddweud beth yw polisiau UKIP? Dydw i ddim yn siwr a ydyn nhw'n gwybod eu hunain.

Mae hynny'n awgrymu i mi mai pleidlais brotest y mae pobl yn chwilio amdano yn yr hinsawdd bresennol, ac nid yw'r ffaith bod AC Ynys Mon yn cefnogi niwclear yn mynd i chwarae ryw lawer ar eu meddyliau nhw yn fy nhyb i.

Fy 'beef' personol i gyda Plaid Cymru yw nad ydw i'n gweld eu polisiau yn dod a ni ddim agosach at eu nod o annibyniaeth ariannol a gwleidyddol oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig. Yr hyn yr hoffwn i ei weld ydi plaid sydd ychydig bach yn fwy didostur wrth wthio buddiannau Cymru, gan wneud penderfyniadau sydd ddim bob tro yn eu gosod ar dir moesol uwch na'u gwrthwynebwyr.

Beth sydd ei angen ar ein gwlad yn ryw fath o 'New Deal' - buddsoddiad anferth mewn trafnidiaeth, ail-wampio y gwasanaeth iechyd yn llwyr (hyd yn oed os yw hynny'n golygu cau rhai gwasanaethau), a llacio dibyniaeth ar y sector gyhoeddus. Serch hynny, bob tro mae agor hewl newydd neu gau gwasanaeth yn cael ei awgrymu mae Plaid yn gwrthwynebu. Rwy'n credu bod y Blaid ar lefel cynghorau Gwynedd a Ceredigion yn fwy o realistig na'r blaid yn genedlaethol yn hyn o beth.

Ni fydd Cymru byth yn annibynol o dan drefn Plaid Cymru, oherwydd nid yw'n gwneud dim i hybu buddsoddiad preifat a llacio dibyniaeth Cymru ar Loegr. Mae cynnal eich gwlad annibynol eich hun yn waith digon anghynnes yn aml, ac weithiau rwy'n credu bod Plaid yn rhy 'neis' i gael eu dwylo'r fudr i wneud y gwaith sydd ei angen. :crechwen:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Methiant Plaid Cymru

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 05 Rhag 2014 7:02 pm

Macsen a ddywedodd:
- Mae'r blaid yn rhy adain chwith, ac wedi mynd yn gynyddol felly dan Leanne Wood. Mae nifer o'u polisiau yn foesol gyfiawn ond efallai braidd yn ddelfrydyddol, ac y byddai rhywbeth sy'n agosach at y tir canol yn wleidyddol yn apelio'n fwy at y boblogaeth. Fel y mae poblogrwydd cynnyddol UKIP yn y Cymoedd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn ei ddangos, nid yw tra-arglwyddiaeth Llafur yng Nghymru o reidrwydd yn golygu bod hon yn wlad adain chwith.



Does gen i fawr o amynedd gyda'r chwith, ond rwy'n ansicr os mae problem y Blaid yw ei bod yn "blaid adain chwith". Er fy mod yn ystyried fy hun fel un sy'n tueddu at yr adain dde prin fy mod yn anghytuno yn chwyrn efo llawer o bolisïau’r Blaid gan eu bod, ar y cyfan, yn ddigon derbyniol i fy nghefndir o gyfiawnder cymdeithasol Rhyddfrydol / anghydffurfiol. Mae'n bosib bod yna fanteision gwleidyddol mewn defnyddio rhethreg y chwith yn y cyfnod gwleidyddol presennol pan fo'r pedair o brif bleidiau'r DU yn troi mwy fwy at y de eithafol; tybiwn fod hynny yn rhan o apêl y Blaid Werdd yn Lloegr. Yn sicr mae undod yr SNP/ PC / Gwyrdd bod dewis economaidd amgen i "austerity" yn un bwerus a fanteisiol.

Problem chwith Plaid Cymru yw ei fod yn dueddol o ddefnyddio rhethreg y chwith Prydeinig. Er enghraifft o wrando ar Bleidwyr yn son am y Frenhiniaeth neu Tŷ'r Arglwyddi does dim yn eu dadleuon sydd yn eu gwahaniaethu rhag gweriniaethwyr Seisnig. Pan fo'r SNP yn dadlau yn erbyn pethau fel y dreth ar lofftydd maent yn cynnig dadleuon unigryw Albanaidd yn ei herbyn ac yn datgan yn glir na fyddai'r fath dreth yn cael ei godi mewn Alban Rydd; mae Plaid Cymru yn wneud datganiadau yn erbyn y dreth sydd mor gyffredinol fel eu bod yn cael eu cyhoeddi yn Y Morning Star Prydeinig.

Nid problem y de neu'r chwith yw problem y Blaid ond broblem o fethu cyfathrebu achos y genedl ym mhob achos gwleidyddol; methu cyfleu mae annibyniaeth yw’r ateb i bob cwestiwn a phob angen.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron