Ail ethol Dai Lloyd Evans yn arweinydd Ceredigion

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Mer 16 Meh 2004 6:20 pm

Ydi'r pleidiau eraill i gyd o blaid y CDU felly?

Mae hyn yn eitha' swreal.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Meh 2004 10:27 pm

"I Have a Dream"
- Dai Lloyd Evans

Delwedd
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan mred » Iau 17 Meh 2004 1:47 am

Dyma'n union oedd llawer yn disgwyl fydda'n digwydd. Fyddach chi yn dal i bleidleisio yn erbyn cael maer pe cynhelid y bleidlais rŵan? Onid ydi dyfodol y Gymraeg a rhwystro 'Mwy o Dai' Lloyd Evans yn bwysicach na ryw hollti blew gwleidyddiaeth plaid?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 17 Meh 2004 8:16 am

mred a ddywedodd:Dyma'n union oedd llawer yn disgwyl fydda'n digwydd. Fyddach chi yn dal i bleidleisio yn erbyn cael maer pe cynhelid y bleidlais rŵan? Onid ydi dyfodol y Gymraeg a rhwystro 'Mwy o Dai' Lloyd Evans yn bwysicach na ryw hollti blew gwleidyddiaeth plaid?


Mi wyt ti wedi colli'r pwynt famma yn anffodus. Dyma'r pwynt wnaeth gymell fi i bledleisio NA.

All y Maer ddim pasio dim heb gefnogaeth y cyngor, felly hyd yn oed petai maer wedi ei ethol byddai methu stopio y CDU oherwydd taw y glymblaid annibyns/libdems sydd mewn pwer yn y cyngor.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cawdel » Iau 17 Meh 2004 9:20 am

Uffernol, a'r gwir amdani yw ein bod ni mewn gwath sefyllfa nawr na beth o ni cyn y refferendwm a'r etholiadau!! Sut gall y sefyllfa bresennol fod yn fwy democrataidd na chael maer etholedig - dwi eto i glywed dadl i'm mherswadio!!

Yr unig beth mae'r refferendwm a'r ethloliadau wedi dangos i mi yw fod mwyafrif trigolion Ceredigion yn hapus gyda'r sefyllfa fel y mae hi-cachgwns!

Yw e'n wir dweud, gyda tua 40% o'r bleidlais yn mynd i Blaid Cymru yn yr etholiadau dros Geredigion gyfan, y byddai hynny wedi bod yn ddigon i sicrhau Maer Plaid Cymru!? Gan gofio hefyd ein bod yn cael ein cynrychioli yn San Steffan a'r Cynulliad gan Blaid Cymru.

Dwi'n ofni bod ni yng Ngheredigion wedi colli ein cyfle gorau i newid pethau trwy bleidleisio 'NA' yn y refferendwm!
Cawdel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Iau 06 Tach 2003 9:00 pm
Lleoliad: Mynydd Gelli Wastad

Postiogan S.W. » Iau 17 Meh 2004 9:30 am

Siawns dylid troi eich sylw rwan at gael y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd rheolaeth dros y Cynllun Datblygu Undebol a cynnal trafodaeth cyhoeddus ymhob ardal o Geredigion i weld be mae nhw eisiau ei weld. Dilyn y syniadaeth Cymunedau'n Gyntaf o alluogi i'r Gymunedau benderfynu ar ba ddatblygiadau bydden nhw'n hoffi eu gweld.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 17 Meh 2004 9:32 am

Fel sydd wedi cael ei bwyntio allan digon o weithiau, fyddai Maer methu gwneud dim heb y cyngor, a gyda sefyllfa bresennol y cyngor fysa Maer da i ddim bethbynnag. Rhaid cofio hefyd petasai rhywun fel Dai Lloyd Evans yn sefyll fel Maer fydda gynno fo cyfle go dda o ennill, a fysa maer a cyngor o blaid y CDU yn wirioneddol chwalu unrhyw obaith o gael gwared â'r CDU.

Yr unig beth fedrwn ni wneud rwan ydi ymgyrchu mewn pob ffordd posib i atal y CDU.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cardi Bach » Iau 17 Meh 2004 9:32 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
mred a ddywedodd:Dyma'n union oedd llawer yn disgwyl fydda'n digwydd. Fyddach chi yn dal i bleidleisio yn erbyn cael maer pe cynhelid y bleidlais rŵan? Onid ydi dyfodol y Gymraeg a rhwystro 'Mwy o Dai' Lloyd Evans yn bwysicach na ryw hollti blew gwleidyddiaeth plaid?


Mi wyt ti wedi colli'r pwynt famma yn anffodus. Dyma'r pwynt wnaeth gymell fi i bledleisio NA.

All y Maer ddim pasio dim heb gefnogaeth y cyngor, felly hyd yn oed petai maer wedi ei ethol byddai methu stopio y CDU oherwydd taw y glymblaid annibyns/libdems sydd mewn pwer yn y cyngor.


Dyna'r pwynt yn gywir, Rhys. A mae'n rhaid i ni nawr roi heibio'r holl drafod am ymgyrch y maer, neu creu rhwygiadau pellach fydd e yn y mudiad - pobl yn suro/chwerwi ayb.

Fi'n cydymdeimlo'n fawr a rhwystredigaeth Nic uchod ynghylch democratiaeth y Cyngor.
Eto, cael ei gamweinyddu (eto fyth!) ma'r holl beth - pebai rhuddyn o hunan barch yn perthyn i'r Libs neu grwp Annibynol yna byddan nhw yn cydnabod mai PC ddylai arwain y Cyngor - y fandad foesol etc.

Ond ynghylch y maer...iawn, mred ac eraill, beth pebawn ni yma wedi pleidleisio dros gael Maer?
Byddai etholiad ym mis Hydref siwr o fod. Byddai Emyr Hywel, neu Bleidiwr yn ennill.
Beth bydden nhw yn neud am y CDU?
Beth yn UNION fyddan nhw'n neud fyddai'n golygu cael gwared o'r Cynllun presenol a llunio in newydd?

Licsen i aros am ateb - a plis cymrwch y cyfle i ateb wedyn - ond mi wna i 'pre-emptio' a chynnig mai DIM yw'r ateb.

Yn wir, bydde fe'n embarasing, achos, er fod gormod o bwerau o ddydd-i-ddydd am berthyn i'r Maer gweithredu o fewn yr arweiniad gwleidyddol bydden nhw'n gorfod neud - yr arweiniad gwleidyddol bydden dod o'r union gabinet sydd newydd ei ffurfio - LIB-DEM a ANNIBYN. Odi chi wirioneddol yn gallu gweld Emyr Hywel neu aelod o'r Blaid yn gweithredu polisiau y cabinet yma? (wrth gwrs ma hwnna'n gwestiwn anodd, achos byddai'r maer yn cal cyflog rhagorol, ac felly falle byddai hyn yn lleddfu'r boen - ond mater arall yw hynny!).

Mae'n bryd i ni wynebu y gwir.
Iawn, nath y Blaid ddim cael mwyafrif 'outright', a dyw'r Blaid ddim yn rheoli y Cyngor. mae hynny yn fethiant nad oes posib dianc ohoni, er fod yna ruddyn o lwyddiant hefyd (cynyddu cynghorwyr, 41% o'r bleidlais etc).
Ond byddai maer, per se, yn neud DIM GWAHANIAETH.

Mae angen rhoi heibio ein siom, ac edrych yn wrthrychol ar y cwbwl.
Odi chi'n gweld beth wy'n treial gyfleu yma mred, lletwad ac eraill?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Iau 17 Meh 2004 9:39 am

Nonsens!!!! Callia!!!! Faint o drafod sydd ise. Ma'r cyhoedd wedi pleidleisio i gael mwy o gynghorwyr ar y cyngor sir sydd o blaid y CDU nag sydd yn ercyn y peth. Fwl Stop!! Dyma beth yw democratiaeth yn anffodus!! Sdi'm gwerth trafod y peth to. Gormod o "jaw jaw" a dim digon o "war war" sy' na yng Nghymru yn gyffredinol. Ry'n ni'n lico siarad am bethe hyd syrffed ond neb yn neud dim byd am y sefyllfa. A y'ch chi'n wirioneddol gredu bydde'r Basgwyr ne'r Corsicaniaid yn cymryd y "softly softly approach" fel hyn. Wrth gwrs na fydde nhw!! Gwneud coelcerth allan o Benmorfa dylai'r flaenoriaeth gynta fod!!!!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Cardi Bach » Iau 17 Meh 2004 9:51 am

Lletwad Manaw a ddywedodd:Nonsens!!!! Callia!!!! Faint o drafod sydd ise. Ma'r cyhoedd wedi pleidleisio i gael mwy o gynghorwyr ar y cyngor sir sydd o blaid y CDU nag sydd yn ercyn y peth. Fwl Stop!! Dyma beth yw democratiaeth yn anffodus!! Sdi'm gwerth trafod y peth to. Gormod o "jaw jaw" a dim digon o "war war" sy' na yng Nghymru yn gyffredinol. Ry'n ni'n lico siarad am bethe hyd syrffed ond neb yn neud dim byd am y sefyllfa. A y'ch chi'n wirioneddol gredu bydde'r Basgwyr ne'r Corsicaniaid yn cymryd y "softly softly approach" fel hyn. Wrth gwrs na fydde nhw!! Gwneud coelcerth allan o Benmorfa dylai'r flaenoriaeth gynta fod!!!!!


iawn.
Ond ai ti sydd am neud hyn?
:winc:
Siarad mawr, ond wy'm yn cofio ti yn dod lan i benmorfa i weithredu yn uniongyrchol LlM.
Daw cyfle eto cyn hir. Ma na wahoddiad i ti ymuno Lletwad.
Ti ffansi?
Paid son fod yna 'conflict' oherwydd dy gyflogwyr - wy ddim yn gweld terfysgwyr y Basg neu Corsica yn dweud hyn. Mae'n dibynnu os yw'r egwyddor yn bwysicach na'r cyflogwyr.
Wela i di lan ma mis nesa te Lletwad! :crechwen:
Ma'r un gwahoddiad yn agored i rhai eraill hefyd am wn i!

Jaw, jaw... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron