Ail ethol Dai Lloyd Evans yn arweinydd Ceredigion

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dielw » Mer 16 Meh 2004 2:16 pm

Difrodi lle Garnet?
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 16 Meh 2004 2:17 pm

Cytuno efo Garnet fynna; fyddai targedu'r cwmniau yn beth da, yn enwedig yn ystod y tymor hir a hwythau wedyn, gobeithio, ddim eisiau adeiladu yng Ngheredigion wedi hynny. Ond credwn yn gryf na ddylid ddiystyrru yr un ddull o weithredu ar y funud, er y gwn fod sawl un yn anghytuno â mi ar y cwestiwn yna.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cardi Bach » Mer 16 Meh 2004 2:22 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Wedi deud hynny, ai'r cyngor ydi'r targed gora? Arian cyhoeddus sy'n mynd i drwsio'r difrod yn fano, wedi'r cyfan. Ella bydda'r datblygwyr yn fwy tebygol o ymateb i ymgyrch ddifrodi, gan y bydda'r golled yn gorfod cael ei chynnwys yn eu cyfrifon nhw, gan wthio prisiau'r tai i fyny, a gwneud Ceredigion yn le llai deniadol i adeiladu tai.


Ond wrth gwrs mae'r datblygwyr ond yn gweithredu o fewn y ddedfwriaeth a hawliau sydd yn bodoli iddyn nhw (nid fod hwnna yn amddiffyniad o unrhyw fawth cofiwch). Falle mai eiddo personol y gwleidyddion di-asgwrn cefn fyddai'r targed orau - bydd rhaid iddyn nhw dalu am y difrod allan o'u poced eu hunen.

Ie, 'rhen DLlE nol wrth y llyw.
Lib Dems wedi dweud nad oedden nhw ar unrhyw gyfri am gydweithio a Phlaid Cymru, ac arweinydd y Lib Dems yng Ngheredigion, Rowland Jones, wedi datgan yn glir yn y Cambrian News nad y'n nhw am gyd-weithio a Phalid Cymru am eu bod nhw am ddefnyddio y Cyngor fel platfform i redeg eu hymgyrch etholiadol flwyddyn nesa!

Ma Rowland, yn ei dwpdra, wedi dangos yn glir sylwedd y Lib Dems. Ma hyn yn sarhad ofnadw ar Lywodraeth leol ac etholwyr ceredigion. gwarth!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan pads » Mer 16 Meh 2004 2:55 pm

Ydy LibDems Ceredigion yn gwybod am unrhyw un o bolisiau eu plaid o gwbl?
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Mer 16 Meh 2004 3:17 pm

Felly mae Plaid Cymru yn ennill mwy o seddau nag unrhyw blaid arall, a nhw yw'r unig blaid sy ddim â sedd ar y cabinet?

A dw i'n gwybod nad yw hyn yn wyddonol iawn, ond gâth PC bron cymaint o bleidleisiau unigol (yn y wardiau lle oedd etholiad) â'r ddwy blaid sy'n mynd i'n rheolu am y pum mlynedd nesa <b>at ei gilydd</b>:

Plaid Cymru: 10,100
Annibyn: 5,423
Dem Rhydd: 5,291

y BBC a ddywedodd:Wedi iddo gael ei ethol dywedodd Mr Evans wrth BBC Cymru mai dymuniad y glymblaid yw na fydd Plaid Cymru yn cael cynnig sedd yn y cabinet newydd.


..er bod bron ddwywaith cymaint o bobl Ceredigion wedi pleidleisio i Blaid Cymru ag i'r Annibynwyr.

Sut mae sefyllfa 'ma yn well na'r <i>worse case scenerio</i> oedd Ffred Ffrancis ac eraill yn ein rhybuddio ni amdano cyn y refferendwm?

Dylwn i fynd yn ôl at ddarllen y Sun, mae'n siwr bod fersiwn Ceredigion o beth sy'n ddemocratig a beth sy ddim yn tu hwnt i fi.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Barbarella » Mer 16 Meh 2004 4:04 pm

Beth sy'n bod ar y Rhyddfrydwyr?

Yng Nghaerdydd (nhw yw'r blaid fwya, ond heb reolaeth lawn) mae nhw am gael gwared â'r syniad o gabinet yn gyfangwbl, a rhannu cyfrifoldeb ymysg yr holl pleidiau, gan gynnwys Plaid Cymru (3 sedd!).

Gweler <a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3810000/newsid_3813100/3813155.stm">stori BBC</a>.

Arweinydd y Lib Dems yng Nghaerdydd a ddywedodd:[mae] hyn yn "strwythur mwy cynhwysol a democrataidd" fyddai'n adlewyrchu barn y pleidleiswyr ac yn symud oddi wrth "reolaeth un blaid gan ychydig o aelodau amlwg mewn cabinet un blaid".


Oes modd iddo gael gair gyda'i gyfeillion yng Ngheredigion?! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Mr Gasyth » Mer 16 Meh 2004 4:24 pm

Ond wrth gwrs mae'r datblygwyr ond yn gweithredu o fewn y ddedfwriaeth a hawliau sydd yn bodoli iddyn nhw (nid fod hwnna yn amddiffyniad o unrhyw fawth cofiwch). Falle mai eiddo personol y gwleidyddion di-asgwrn cefn fyddai'r targed orau - bydd rhaid iddyn nhw dalu am y difrod allan o'u poced eu hunen.


Dwi'n dechre teimlo fod y sefyllfa yr iaith, nid yn unig yng Ngheredigion ond drwy Gymru gyfan, wedi cyrredd y pwynt ble mae'n rhaid i bawb sydd yn gwneud drwg iddi er mwyn eu budd economaidd neu personnol eu hunain gymerd cyfrifoldeb am hynny a wynebu'r oblygiadau.

Iawn, ma cwmniau adeiladu a datblygwyr tai, fel cwmniau preifat eraill sydd heb bolisiau dwy-ieithog neu sydd yn rhentu tai ha, neu yn annog Saeson i symyd i mewn i gymru neu beth bynnag, yn gweithredu o fewn y gyfraith. Ond mae yna wahaniaeth pwysig, yn nad ydi'r gyfreth yn dweud fod RHAID iddynt wneud y pethau hyn, y nhw sy'n dewis eu gwneud nhw, er mwyn gwneud pres. Alle Dai Lloyd Evans ddim codi 6,500 o dai petai datblygwyr yn gwrthod gwneud hynny - ond wrth gwrs wna nhw ddim achos mi fasen nhw'n colli pres. Ma nhw'n rhoi pres cyn yr iaith, ac felly ddywedwn i yn dargedau dilys i ymgyrch brotestio a difrodi di-drais.

Ma'r ymdrechion o atal y datblygiadau yma drwy roi pwysau ar y Cyngor fwy na thebyg wedi methu. Felly mae'n rhaid i genedlaetholwyr a charedigion yr iaith wneud penderfynniad. Unai derbyn ein bod wedi colli, neu gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y tai yma rhag cael eu hadeiladu. Os yr ail opsiwn, rhaid derbyn dwi'n meddwl mai'r unig ffordd yw ymgyrchoedd di-drais yn erbyn y safleodd adeiladu eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan SbecsPeledrX » Mer 16 Meh 2004 5:14 pm

Llongyfarchiadau i Blaid Cymru gyda llaw! :rolio:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 16 Meh 2004 5:20 pm

A diolch mawr i Gymru Ymlaen am gwneud cyn gymaint o ymdrech i geisio atal y CDU, hefyd :rolio:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 16 Meh 2004 6:15 pm

"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai