Tudalen 1 o 6

Ail ethol Dai Lloyd Evans yn arweinydd Ceredigion

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:19 pm
gan Fach

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:22 pm
gan Hogyn o Rachub
Hmm, beth mae hyn yn golygu i'r CDU, sgwn i? Ydi o am fynd yn ei flaen?

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:33 pm
gan Dylan
Ymddengys felly. Da 'di'r busnes democratiaeth 'ma 'de? :)

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:40 pm
gan Hogyn o Rachub
Ia wir. Sgin neb tanc go fawr o betrol a chwe mil a hanner o fatshys yn o handi, mae'n siwr? :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:43 pm
gan Garnet Bowen
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ia wir. Sgin neb tanc go fawr o betrol a chwe mil a hanner o fatshys yn o handi, mae'n siwr? :crechwen:


Ella bod hi wedi cyrraedd y pwynt lle mae'n rhaid i ni droi at ymgyrch o dor-cyfraith. Di-drais, ac atebol, wrth gwrs. :winc:

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:47 pm
gan Lletwad Manaw [gynt]
" For Ceredigion, see North Korea"!!!!!! Gadewch i adroddiad yr Ombwdsmon ddod nol gynta!!! Gan ein bod yn son am dor-cyfraith. Beth yw'r diweddaraf am ymchwiliad hwnnw, oes rhywun yn gwbod??

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:55 pm
gan Hogyn o Rachub
Garnet Bowen a ddywedodd:Ella bod hi wedi cyrraedd y pwynt lle mae'n rhaid i ni droi at ymgyrch o dor-cyfraith. Di-drais, ac atebol, wrth gwrs. :winc:


Wel pawb a'i beth, wrth gwrs :winc: . Ond na, yn seriws rwan, bydd rhaid gwneud rhywbeth i atal y CDU o ddifrif os mae hi dal ar y cerdiau i fynd ymlaen.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 2:02 pm
gan Lletwad Manaw [gynt]
"The claims led to the council leader, Dai Lloyd-Evans, who owns land in the Ceredegion region, being reported to the ombudsman for Wales.

The ombudsman's office confirmed that it subsequently called in the fraud squad, which spent 19 months investigating Mr Lloyd-Evans. The case has yet to be resolved.

Mr Lloyd-Evans could not comment in detail but maintained he had done nothing wrong in overseeing the unitary development plan (UDP)."



Wele uchod ddarn allan o'r Guardian Ebrill 22 2004 parthed fy mhwynt cynt. FRAUD SQUAD bois bach!!!! Falle nad yw'r frwydr trosodd eto!!!!!
Rhywun yn gwbod pryd ma "visiting hours" carchar Abertawe :lol:

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 2:06 pm
gan Barbarella
Garnet Bowen a ddywedodd:Ella bod hi wedi cyrraedd y pwynt lle mae'n rhaid i ni droi at ymgyrch o dor-cyfraith. Di-drais, ac atebol, wrth gwrs. :winc:


Mae un yn bodoli eisoes! Gweler <a href="http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_2258000/2258173.stm">hwn</a> a <a href="http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_2127000/2127042.stm">hwn</a> a <a href="http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_2129000/2129618.stm">hwn</a>.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 2:13 pm
gan Garnet Bowen
Wedi deud hynny, ai'r cyngor ydi'r targed gora? Arian cyhoeddus sy'n mynd i drwsio'r difrod yn fano, wedi'r cyfan. Ella bydda'r datblygwyr yn fwy tebygol o ymateb i ymgyrch ddifrodi, gan y bydda'r golled yn gorfod cael ei chynnwys yn eu cyfrifon nhw, gan wthio prisiau'r tai i fyny, a gwneud Ceredigion yn le llai deniadol i adeiladu tai.