Ydi'r pleidiau eraill i gyd o blaid y CDU felly?
Mae hyn yn eitha' swreal.
Cymedrolwr: Mr Gasyth
mred a ddywedodd:Dyma'n union oedd llawer yn disgwyl fydda'n digwydd. Fyddach chi yn dal i bleidleisio yn erbyn cael maer pe cynhelid y bleidlais rŵan? Onid ydi dyfodol y Gymraeg a rhwystro 'Mwy o Dai' Lloyd Evans yn bwysicach na ryw hollti blew gwleidyddiaeth plaid?
Rhys Llwyd a ddywedodd:mred a ddywedodd:Dyma'n union oedd llawer yn disgwyl fydda'n digwydd. Fyddach chi yn dal i bleidleisio yn erbyn cael maer pe cynhelid y bleidlais rŵan? Onid ydi dyfodol y Gymraeg a rhwystro 'Mwy o Dai' Lloyd Evans yn bwysicach na ryw hollti blew gwleidyddiaeth plaid?
Mi wyt ti wedi colli'r pwynt famma yn anffodus. Dyma'r pwynt wnaeth gymell fi i bledleisio NA.
All y Maer ddim pasio dim heb gefnogaeth y cyngor, felly hyd yn oed petai maer wedi ei ethol byddai methu stopio y CDU oherwydd taw y glymblaid annibyns/libdems sydd mewn pwer yn y cyngor.
Lletwad Manaw a ddywedodd:Nonsens!!!! Callia!!!! Faint o drafod sydd ise. Ma'r cyhoedd wedi pleidleisio i gael mwy o gynghorwyr ar y cyngor sir sydd o blaid y CDU nag sydd yn ercyn y peth. Fwl Stop!! Dyma beth yw democratiaeth yn anffodus!! Sdi'm gwerth trafod y peth to. Gormod o "jaw jaw" a dim digon o "war war" sy' na yng Nghymru yn gyffredinol. Ry'n ni'n lico siarad am bethe hyd syrffed ond neb yn neud dim byd am y sefyllfa. A y'ch chi'n wirioneddol gredu bydde'r Basgwyr ne'r Corsicaniaid yn cymryd y "softly softly approach" fel hyn. Wrth gwrs na fydde nhw!! Gwneud coelcerth allan o Benmorfa dylai'r flaenoriaeth gynta fod!!!!!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai