Y Cymry'n bobl gwleidyddol iawn.....

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Clever

Postiogan Di-Angen » Mer 02 Hyd 2002 4:11 pm

Fi a ddywedodd:
chris a ddywedodd:
Dwi'n Brydeinwr ac yn Gymro. Mae 4,000,000 ohoni oleiaf sy'n teimlo'r un peth.
.

:?: :?
Clever iawn Chris...4,000,000 dife?
hmmm, mae ffigyrau cyfrifiad Cymru yn nodi fod jyst o dan 3,000,000 yn byw yng Nghymru (ag eithro'r 60,000 a wrthododd i lenwi'r cyfrifiad). Gan gymryd fel ffigwr fod hanner y boblogaeth yn teimlo yr un peth a thi, sy'n rhoi i ni 1,500,000, ble mae, neu'n hytrach pwy yn union yw y 2,500,000 arall, "oleia", yma sy'n "teimlo'r un peth" gwed?


Rwy'n cymryd ei fod yn meddwl y Cymry sy'n byw yn Lloegr/Alban ar draws y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Chris Castle » Sul 06 Hyd 2002 10:42 am

:wps:

Wnes i feddwl y mae 5000000 o Gymry yng Nghymru. Estimat oedd y ffigyrau wrth gwrs.

Dylwn i fod mor ofalus gyda ffigyrau, ond mae'r pwynt yn iawn. Dyw mwyafrif y Cymry ddim eisiau bod ar wahan i Brydain. A Mae PC yn bodoli er mwyn gwahanu Cymru rhag Brydain.

Mae'n wir bod nifer o fewn PC sydd gan syniadaeth soffistegedig am "Sovereignty". Syniadaeth sy'n debyg i rai ohonon ni yn Lafur.

Ond mae perffeddion Aelodau PC yn ysu am Gymru i ddod yn Wladwriaeth.
Bydd economi Lloegr yr un mor gryf i effeithio arnon ni. Bydd ein ffiniau ar agor (fel rhan o Ewrop) fel y maen nhw nawr.
Yr unig beth a fyddai'n wahanol byddai'r diffyg "say" inni yn San Steffan. Felly bydd sefyllfa'r Cymry yn waith.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan nicdafis » Sul 06 Hyd 2002 12:32 pm

chris a ddywedodd:A Mae PC yn bodoli er mwyn gwahanu Cymru rhag Brydain.


Nac ydy. Mae'r Blaid yn bodoli er mwyn gwahanu Cymru rhag Lloegr. Erbyn i ni gyrraedd y pwynt lle mae mwyafrif o bobl Cymru yn barod i gymryd y cam hwnnw bydd yr Alban wedi hen adael "Prydain".

John Lennon a ddywedodd:I don't believe in Beatles.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chris Castle » Sad 12 Hyd 2002 3:03 pm

Yn erbyn Cenedlaetholdeb ydw i. Dwi ddim yn credu mewn "Gwladwriaeth" fel rhwpeth diaonus. Beth bynnag y mae Plaid Cymru yn dweud eu hamcan yw creu Gwladwriaeth seliedig ar syniad o "Genedl". Mae'r un perygl yma sydd gyda'r "Little Englanders" a'r UK Nationaslist.

Dwi ddim eisiau bod "ar wahan i Loegr" achos golyga hynny "bod yn ar wahan i'r Saeson".

Clymu Cenedloedd/Pobl at eu gilydd mewn modd sy'n parchu eu gwahaniaethau ydw i.

Dyn ni'n mynd i fewn i mode etholiad yma mae'n amlwg.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan nicdafis » Sad 12 Hyd 2002 8:22 pm

Chris Castle a ddywedodd:Dwi ddim eisiau bod "ar wahan i Loegr" achos golyga hynny "bod yn ar wahan i'r Saeson".


Dw i'n byw gyda Saesnes. Does dim diddordeb 'da fi bod ar wahan iddi hi. Am un peth, pwy fyddai'n cywiro fy Nghymraeg warthus?

Does dim rhaid i ni fod yn ofnus am ddweud bod ni am wahanu o Loegr yn wleidyddol: dydy hynny <b>ddim</b> yr un peth â bod yn wrth-Saeson, beth bynnag mae Sant Drudwy yn ei ddweud. Mae 'na filoedd a miloedd o "Saeson" yn byw yng Nghymru erbyn heddi - pobl Cymru ydyn nhw, ta waeth dydyn nhw ddim i gyd yn derbyn hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sad 12 Hyd 2002 8:31 pm

A chyn i rywun f'atgoffa bod miloedd o "Gymry" yn byw yn Lloegr, ie, "pobl Lloegr" ydyn nhwthau, ta waeth bod nhw'n maxboycio gyda'r goreuon diwrnod y Gêm Fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai