Y Cymry'n bobl gwleidyddol iawn.....

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Cymry'n bobl gwleidyddol iawn.....

Postiogan Di-Angen » Mer 25 Medi 2002 9:50 pm

Pam fod yr adran hyn mor wag?
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Mer 25 Medi 2002 10:33 pm

Mae'n bosib bod pawb sy am drafod gwleidyddiaeth yn ei wneud ar Usenet neu fyrddau eraill. Paid poeni, dw i'n siwr bydd pethau yn pigo lan yma unwaith bod mwy o aelodau 'da ni.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Meilyr » Iau 26 Medi 2002 9:20 am

Dwi'n meddwl fod o'n fwy i neud efo'r ffaith bod gan y bobl sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth yma fwy o ddidordeb mewn arwyddion Cymraeg yn Dixons na'r ddadl ynglyn a bomio Irac.
Meilyr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Maw 20 Awst 2002 10:08 am
Lleoliad: Caerdydd

Bomio Irac!

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Medi 2002 9:51 am

Paid bod yn ddwl. Mae mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith yn gryf yn erbyn bomio Irac ac yn gryf o blaid Heddychiaeth.

Mae bwriad i ail gyhoeddu un o'n hen bosteri gyda llun colomen a'r gair Heddwch ac oddi tano Heddwch mewn degau o ieithoedd eraill. Union yr un bobl sy'n brwydro dros Heddwch yn irac ac sy'n brwydro dros yr Iaith Gymraeg. Y math o bobl sy'n fodlon gwneud rhywbeth i atal anghyfartaledd yn hytrach nag iste ar eu tinau!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

newid

Postiogan chris castle » Iau 26 Medi 2002 10:33 am

OS MAE'R GYMRAEG I FYW, RHAID I BOPETH NEWID!!

Nefar ei triwer wyrd spowcen.

Ond efallai y mae rhaid i genedlaetholwyr newid pethau sy'n agos at eu calonau os ydynt am newid sefyllfa'r iaith! :ofn: :?:
chris castle
 

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Medi 2002 12:38 pm

Fel Beth?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan chris » Gwe 27 Medi 2002 1:14 pm

Peidiwch â dweud y mae dim ond un fath o Gymreictod.
Sef Cymreictod Cenedlaetholgar.
Dwi'n Brydeinwr ac yn Gymro. Mae 4,000,000 ohoni oleiaf sy'n teimlo'r un peth.
Os ydy Iaith a Gwladwriaeth Cymreig yn hollol dibynnol ar ei gilydd bydd yr Iaith yn Marw.
chris
 

Postiogan nicdafis » Gwe 27 Medi 2002 6:38 pm

chris a ddywedodd:Os ydy Iaith a Gwladwriaeth Cymreig yn hollol dibynnol ar ei gilydd bydd yr Iaith yn Marw.


Dydyn nhw ddim yn dibynnol ar ei gilydd, o leia nid mewn athroniaeth "clasurol" Plaid Cymru.

"Mae'r iaith yn fwy pwysig na hunan llywodraeth." - JSL
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan chris » Sul 29 Medi 2002 8:55 am

[quote][/quote]


Piti dyw Lot o aelodau PC ar pleidiau sglod ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng hybu diywlliant a adeiladu Gwladwriaeth.

Roedd Gwyn Alf Williams a ysbridolodd fi i ddysgu'r Iaith.
Wnes i ddim hyd yn oed gwybod roedd yn Pleidiwr!
chris
 

Clever

Postiogan Fi » Mer 02 Hyd 2002 2:49 pm

chris a ddywedodd:
Dwi'n Brydeinwr ac yn Gymro. Mae 4,000,000 ohoni oleiaf sy'n teimlo'r un peth.
.

:?: :?
Clever iawn Chris...4,000,000 dife?
hmmm, mae ffigyrau cyfrifiad Cymru yn nodi fod jyst o dan 3,000,000 yn byw yng Nghymru (ag eithro'r 60,000 a wrthododd i lenwi'r cyfrifiad). Gan gymryd fel ffigwr fod hanner y boblogaeth yn teimlo yr un peth a thi, sy'n rhoi i ni 1,500,000, ble mae, neu'n hytrach pwy yn union yw y 2,500,000 arall, "oleia", yma sy'n "teimlo'r un peth" gwed?
Fi
 

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 9 gwestai

cron