Beth mae pawb yn meddwl am yr holl brotestiadau yn Llundain yn ddiweddar am broblemau cefn gwlad? Mae'n amlwg bod y mwyafrif o'r issues roeddynt yn son am yn berthnasol i rhai o'r issues yma yng Nghymru.
Beth rwy'n ei weld yn od yw bod llawer ohonynt, sy'n hoffi lladd cadno, yn dweud y dylai'r llywodraeth gadw allan o fusnes cefn gwlad a gadael i nhw ladd mwy o gadno (it's the way of the countryside), ond eto am i'r llywodraeth taflu biliynau o bunnoedd mewn i'r ardaloedd hynny achos bod "the way of the countryside" ddim yn gweithio mor dda y dyddiau yma.
Wrth gwrs, does dim problemau yn ein dinasoedd!