Gleidyddion Gall ?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gleidyddion Gall ?

Postiogan chris » Sul 29 Medi 2002 9:42 am

Mae hedd in dweud taw Twpsyn yw Siors Dybya Bwsh. Ond ma MBA 'da fe oddi wrth Prifysgol Harvard.
Felly mae'n amhosib i fod e'n dwp.

Mae gradd o'r un Prifysgol gan Rhodri Morgan ein Llyw presennol.

Sy'n profi ................. :wps:
chris
 

Postiogan nicdafis » Sul 29 Medi 2002 11:28 am

Ac mae gan Thatcher radd uwch mewn cemeg...

Ond, ti'n iawn, mae'n beryglus i ni anwybyddu Bush achos ei "dwpdra". (Mae'n debyg bod enw am ei broblem gyda geiriau, rhyw fath o "verbal dislexia", ond mae'n bosib mod i'n siarad rwtsh, hefyd) Mae mwy na un fath o ddealltwriaeth. Edrych ar Bill Gates, er enghraifft, sydd heb addysg uwch o gwbl, ond sy'n ddigon glyfar i codi i dop ei faes.

Gan amlaf mae ennill gradd yn fater o ddilyn cyfarwyddiadau manwl ("Dim ond y pennillion dyn ni'n eu hastudio heddiw bydd ar yr arholiad") ac anwybyddu popeth arall. Beth dysgodd Bush (a Rhodri, mae'n debyg, do'n i ddim yn gwybod hynny amdano) yn Harvard yw pwysigrwdd gwasgu dwylo â'r "pobl go iawn". <i>Networking</i>.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chris Castle » Llun 30 Medi 2002 11:32 am

Son am yr hen Fagi.

Yn ystod ei PHD wnaeth hi gweithio ar y cemegion sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu Hefen Ia MR Wipi.

Ychwanegu pethau afiaich i bethau sy'n iawn er mwyn gwthio awyr i'w mewn ac yn gwerthu Awyr yn hytrach na hufen.

Wnaeth hi ddim byd yn ystod ei holl fywyd ond twyllo a dinistrio.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 02 Hyd 2002 4:15 pm

Wnaeth hi ddim byd yn ystod ei holl fywyd ond twyllo a dinistrio.


Swnio i fi fel Tony Blair.

Mae hedd in dweud taw Twpsyn yw Siors Dybya Bwsh. Ond ma MBA 'da fe oddi wrth Prifysgol Harvard. Felly mae'n amhosib i fod e'n dwp.


Sgwni Faint dalodd Bush Senior am radd i'w fab yn Harvard?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan ceribethlem » Iau 31 Hyd 2002 10:01 pm

Mae hedd in dweud taw Twpsyn yw Siors Dybya Bwsh. Ond ma MBA 'da fe oddi wrth Prifysgol Harvard.
Felly mae'n amhosib i fod e'n dwp.


Braidd yn naif yw hyn. Fel athro mae'n hawdd i fi gadarnhau fod cael graddau da a marciau da ddim o reidrwydd yn golygu gallu uchel yn feddyliol. Mae gen i un disgybl sy'n methu ysgrifennu yn iawn, wrth edrych ar ei waith byddet yn meddwl mae plentyn gallu isel yw, y gwir yw mae'r plentyn yma llawer mwy deallus na gweddill y dosbarth ond fod problemau hand-eye co-ordination gydag ef.
Yn yr un modd mae gen i ddisgyblion sydd, o edrych ar eu canlyniadau, yn ymddangos yn ddeallus tu hwnt. Wrth eu holi fodd bynnag dwi'n gweld nad ydynt yn deall y gwaith o gwbl, cofio'r gwaith yn unig maent.
Mae gwahaniaeth mawr rhwng ail-adrodd ffeithiau a bod yn ddigon deallus i weithio atebion allan gan ddefnyddio ffynhonnell o wybodaeth.

Dyma un o'r rhesymau pam fod defnydd o'r IQ wedi lleihau dros y blynyddoedd, profi un math o feddwl yn unig mae hyn yn ei wneud. Mae'r Emosional Intelligence yn cael ei ddefnyddio llawer mwy bellach.

Y pwynt o hyn felly yw:
Hedd ti'n iawn mae Dubya yn dwp. Mae e' hefyd yn wallgofddyn, dyna pam mae e'n beryglus!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai