Cyflafan

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyflafan

Postiogan Fi » Mer 02 Hyd 2002 10:50 am

CYFLAFAN /ARMAGEDON

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Bomber Blair a Bomber Bush yn Affganistan, a llwyddiannau ysgubol blaenorol yn Nicaragua, Panama, Cuba, Korea, Vietnam, Cambodia, Laos, Rwanda, Somalia, Sudan, Ethiopia, Iran ac eraill yn eu plith -

O'r un stabal a'r cyflafannau ysgubol yma MI FYDDI DI (trwy law caredig Tony Blair) yn cyfrannu at -

IRAC 2 - Bush's Revenge!

Yma cawn weld degau o filoedd o bobl diniwed yn cael ei lladd o fewn wythnosau, a channoedd o filoedd yn dioddef ac yn marw yn ystod y blynyddoedd dilynol.

Caiff hyn oll ei wneud YN DY ENW DI!!

Ond, mae hon yn addo i fod yn well na'r gweddill -
Dywed y critics amdano "Earth Shattering!"; "Packed Full of Explosive Scenes!" a gall arwain at ansefydlogi y dwyrain canol yn llwyr! ( ac efallai rhyfel Niwclear GO IAWN rhwng India a Phakistan! Waw!).

Bydd hyn yn digwydd mewn gwlad tra thlawd ac i bobl tlawd, sal, diniwed, heb obaith sydd wedi cael eu gormesi am ddegawdau rhywbryd yn ystod y misoedd nesaf ONI BAI DY FOD TI YN YSGRIFENNU AT BLAIR YN DATGAN DY WRTHWYNEBIAD.
Fi
 

Postiogan nicdafis » Mer 02 Hyd 2002 2:21 pm

[Wedi symud hyn o'r seiat Digwyddiadau, ac atal pobl sy ddim wedi cofrestru rhag postio yn y seiat honno. Fyddwn i wedi sgwennu at "Fi" yn breifat am hyn, ond dw i ddim yn gallu, wrth gwrs, achos dwi ddim yn gwybod pwy yw e/hi.]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Ymddiheuriad

Postiogan Fi » Mer 02 Hyd 2002 2:30 pm

(Sori. Meddwl y byddai rhyw eironi yn perthyn trwy ei osod o dan 'Digwyddiadau' am mai hwn yw un o'r prif ddigwyddiadau sy'n debygol o ddigwydd eleni. Ond rwy'n derbyn nad hwn oedd y fforwm cywir i leisio barn. Ta waeth parhaer a'r drafodaeth.)
Fi
 

Postiogan nicdafis » Mer 02 Hyd 2002 3:10 pm

Popeth yn iawn. Jyst gobeithio bydd hyn un o'r digwyddiadau sy'n cael eu canslo yn y munud ola.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron