10:30am Sad 4/3/17 Radio Beca Cyngor Tref Aberystwyth

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

10:30am Sad 4/3/17 Radio Beca Cyngor Tref Aberystwyth

Postiogan David Wyn » Mer 01 Maw 2017 12:56 am

Annwyl Bawb,
dyma wahoddiad i chi ymuno gyda ni yng Nghyngor Tref Aberystwyth D.Sadwrn yma [4ydd o fis Mawrth] i glywed y diweddaraf yn nhaith Radio Beca i wasanaethu Cymunedau Cymraeg gorllewin Cymru.
Oherwydd bod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn digwydd yn y dref ar y Sadwrn, hoffwn estyn gwahoddiad i chi ymuno gyda ni pryd bynnag sy'n gyfleus i chi yn ystod y diwrnod, - gan gofio y byddwn yn ymuno gyda'r Parêd ei hun am 1yp :
AGENDA CYFARFOD CYHOEDDUS CYNGHRAIR CYMUNEDAU CYMRAEG
10:30yb Paned a sgwrs.
11:00 Croeso a Chyflwyniad: Prosiect #UnWladDwyIaith, wedi ei ariannu gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.
11:45 Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cynghrair Cymunedau Cymraeg
12:30 Toriad am ginio ac i ymuno gyda Pharêd Dydd Gŵyl Dewi
2:00yp Cyflwyniad gan Lowri o Radio Beca ar Gyfathrebu Cymunedol Cyfoes.
3:30 Unrhyw Fusnes Arall, a phaned arall!
Gobeithio gallwch ymuno gyda ni, bydd y syniadau a thrafodaethau mwyaf difyr yn gallu cael eu rhannu trwy ein cyfryngau cymdeithasol ninnau, wrth gwrs [ gweler isod]! Gan fod gymaint o themau i'w trafod, y gobaith yw y bydd yna ambell i ateb i ambell i gwestiwn yn dod i'r golwg cyn yr etholiadau cyngor sy'n ein hwynebu ni cyn hir...
Gwelwn ni chi yna, os na welwch chi ni gynta' ar ein ffrwd/ydoedd byw!
Am fwy o wybodaeth, neu os oes unrhyw gwestiwn, dewch i gyswllt wrth gwrs.
gyda diolch
David Wyn
07964 684 820
http://cymunedau.org
http://twitter.com/cynghrair
http://facebook.com/cymunedaucymraeg


----------

gwybodaeth bellach


Y brif thema dan sylw yn y bore bydd #UnWladDwyIaith , prosiect sydd wedi ei ariannu yn barod gan Gronfa LoteriArian i Bawb; felly os am wybod sut gall eich cymuned chi elwa o fod yn rhan o hynny, ceisiwch ymuno gyda ni os gwelwch yn dda.
Y gobaith yw, y bydd modd i'r Gynghrair ddychwelyd i'w nodau craidd o hybu gweithredu trwy Gymraeg yn y gymuned trwy'r gwaith hwn wrth gydweithio gyda sefydliadau addysg; e.e. a bydd ysgol gyfun yn lleol i chi am i'w disgyblion wirfoddoli gyda'ch cyngor cymuned leol er enghraifft?
Os oes yna alw am rannu neu i'ch grwp chi fynychu ein cyfarfod dros y we trwy dechnoleg [Skype e.e.] yna byddwn yn gallu ymchwilio hynny. Ac os nad oes gennych yr adnoddau i ganiatai hynny, dewch i gyswllt a fe wnewn ni geisio eich cynghori.
Dewch i Gyngor Dref Aberystwyth i'n Cyfarfod Blynyddol er mwyn trafod unrhyw themâu / problemau hoffwch chi godi. Eto, i wireddu hynny dewch i gyswllt, rydym ni am fod yn sefydliad sydd nid yn unig yn atebol i'n haelodau ond hefyd yn gweithredu ar eu cyfer, fel oedden ni wedi gwneud yn llwyddiannus yn y maes cynllunio trwy #DatblyguYBoblLeol a darlledu #caruS4C.
David Wyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Gwe 17 Hyd 2014 11:46 am

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron