Roedd y demo yn reit dda - rhwy 30 o bobl dewr yn y tywydd mwya ycha fi. DA IAWN i bawb wnaeth droi fyny.
Roedd lot o heddlu a dynion diogelwch Morrissions yno i sicrhau doedden ni ddim yn cael mynd i mewn ac blocio'r drysau fel y tro diwethaf. Ac doedd neb yn ffansio eistedd ar y concrit gwlyb, oer tu allan... Gall iawn
Wnes i dynnu lluniau ac mae nhw ar http://www.flickr.com/photos/51447658@N00/
Ie 30 yn reit dda. Niferoedd felly sydd wedi bod y rhan mwya o demos CyIG dros y 40 mlynedd diwethaf. Dim ond weithiau mae criwiau mawr yn troi fyny. Yr arfer yw criw bach yn sefyll yn y gwynt a glaw, teimlo'n prats... ond dyna beth sydd wedi newid lot lot fawr o bethe er gwell.