Lali-pwpw a ddywedodd:protest ynglyn a'i polisi iaith nw?
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn trafod gyda Morrisons ers peth amser ac maent wedi addo gwneud nifer o newidiadau ond nid ydynt wedi gweithredu ar y rhain. Maent bellach yn gwrthod ateb nifer o alwadau ffon ac ebyst. Yr ydym wedi gofyn i Morrisons ddarparu:
1. Arwyddion parhaol dwyieithog
2. Posteri / taflenni dwyieithog
3. labeli cynnyrch eu hunain yn ddwyieithog
4. Adran o'r wefan yn Gymraeg
5. Cynnyrch lleol ar werth
6. Cyhoeddiadau uchelseinydd dwyieithog
7. Hyfforddiant yn y Gymraeg i'r staff
Os nad ydych yn gallu mynychu'r brotest danfonwch ebost at Chris Blundell
Chris.Blundell@morrisonsplc.co.uk , sef aelod o'r Bwrdd Rheoli , yn mynnu'r uchod!