26/1/8 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

26/1/8 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan cwrwgl » Llun 07 Ion 2008 11:02 pm

GWEITHDY GWERIN CLERA

Cyfle i ddysgu chwarae cerddoriaeth draddodiadol Cymru gyda rhai o'n cerddorion gorau.

Dydd Sadwrn 26 Ionawr 2008
10.00am – 4.30pm
Ysgol Tryfan, Bangor

£15 oedolion (£12 i aelodau)
£10 myfyrwyr/di-waith/pensiynwyr (£8 i aelodau)
£5 dosbarthiadau prynhawn


Y DOSBARTHIADAU:

PIBAU/PIBGORN – Ceri Rhys Matthews
Pibydda, a sut y deill repertoire o'r offeryn.

OFFERYNNAU 'MELODI' A (e.e. ffliwt/ffidil a.y.b.) – Cass Meurig
'Dehongli alaw' ar unrhyw offeryn 'melodi'.
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i tua Gradd 5 i fyny.

TELYN A – Robin Huw Bowen
Ar gyfer unrhyw fath o delyn, gan gynnwys y delyn deires.
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i tua Gradd 5 i fyny.

TELYN B – Rhiain Bebb
Ar gyfer unrhyw fath o delyn, gan gynnwys y delyn deires.
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i tua Gradd 3 i Gradd 5.

FFIDIL B – Dan Morris
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i tua Gradd 3 i Gradd 5.

FFLIWT/CHWIBANOGL B – Elin Roberts
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i tua Gradd 3 i Gradd 5.

FFIDIL C - Carol Llewelyn (prynhawn yn unig, am 2pm)
Dosbarth i blant yn benodol, ond croeso i oedolion hefyd!
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i hyd at Gradd 3.

CHWIBANOGL C - Geoff Hardman (prynhawn yn unig, am 2pm)
Dosbarth i blant yn benodol, ond croeso i oedolion hefyd!
I chwaraewyr o safon yn cyfateb i hyd at Gradd 3.


Mae croeso i chi ddod â pheiriant i recordio'r gweithdy os dymunwch.
Bydd mwyafrif yr alawon yn cael eu dysgu o'r glust (h.y. heb gopi!).

Bydd te a choffi ar gael yn ystod y dydd

Cysylltwch trwy neges breifat os am unrhyw fanylion pellach.
(hint hint - mae'n lot o help i ni os yw bobl yn cofrestru o flaen llaw!)

wedyn gyda'r nos...

SESIWN WERIN CLERA
tua 8.30pm ymlaen
Nos Sadwrn, 26 Ionawr 2008
Tafarn Y Nelson, Ffordd Glan y Mor, Bangor
Croeso i bawb - am ddim!

http://www.clera.org/
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: 26/1/8 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan cwrwgl » Sul 27 Ion 2008 12:01 pm

Diwrnod llwyddianus.
47.5 cerddor wedi mynychu yn y dydd, a'r Nelson yn "standing room only" gyda'r nos.
Diolch i bawb a fynychodd - fel tiwtoriaid, disgyblion neu i chwarae yn y sesiwn nos.
Nodwch y neges am y gweithdy nesaf yn Aber...

:D
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: 26/1/8 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 27 Ion 2008 4:02 pm

.5 person?!?!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: 26/1/8 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan cwrwgl » Sul 27 Ion 2008 9:27 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:.5 person?!?!

Dwi'n gwbod - amazing yn de! Ti byth yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd mewn gweithdy gwerin :seiclops:

Actiwali - erbyn adio'r rhifau yn IAWN, roedd 50 cerddor wedi mynychu, sydd ddim yn swnio hanner mor gyffroes ag 47.5...
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron