2/2/08 Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Aberystwyth

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

2/2/08 Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Aberystwyth

Postiogan Angharad Clwyd » Iau 17 Ion 2008 9:47 am

Cyfarfod Cyffredinol 2008, ABERYSTWYTH

Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol ar Ddydd Sadwrn Chwefror 2il 2008 yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth, Ceredigion.

Trefn y Diwrnod

10.00am - Croeso.

10.30am - Adroddiad Ariannol ac Adroddiad Buddsoddi yn y Gymuned (Danny Grehan a Sel Jones).

11.00am - Adroddiad Ymgyrch Deddf iaith (Rhun Emlyn)
Cynigion Deddf Iaith
* Cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad (Cynigir gan y Grŵp Ymgyrchu Deddf Iaith Newydd)
* Y Gymraeg yn y Sector Breifat (Cynigir gan y Senedd)
* Y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd (Cynigir gan Grŵp Ymgyrchu Deddf Iaith Newydd)

11.30am - Adroddiad Ymgyrch Cymunedau Rhydd (Iestyn ap Rhobert)
Cynigion Cymunedau Rhydd
* Statws Cynllunio Llawn i'r Iaith Gymraeg (Cynigir gan y Grŵp Ymgyrchu Cymunedau Rhydd)

11.45am - Adroddiad Ymgyrchoedd Addysg (Ffred Ffransis)
Cynigion Addysg
* Dyfodol Ysgolion Pentrefol Gwynedd (Cynigir gan Grŵp Ymgyrchu Addysg)
* Gwleidyddiaeth Newydd gan Lywodraeth Cymru (Cynigir gan y Senedd)
* Ymgyrch i sefydlu Coleg Aml-Safle/Coleg Ffederal Cymraeg: (Cynigydd: Menna Machreth Eilydd: Rhys Llwyd)

12.15pm - Cynigion Cyffredinol
* Dyfodol Darlledu Drwy Gyfrwng y Gymraeg (Cynigir gan: Osian Rhys, Eilydd: Hywel Griffiths)
* Gweinyddiaeth Fewnol Cynghorau Sir Cymru (Cynigir gan: Angharad Clwyd, Eilydd: Dafydd Lewis)
* Swydd Newydd i’r Senedd – Cadeirydd Grŵp Dysgwyr a’r Di-Gymraeg (Cynigyr gan: Angharad Clwyd, Eilydd: Hywel Griffiths)
* Newid amseru’r Cyfarfod Cyffredinol (Cynigir gan: Ffred Ffransis, Eilydd: Sioned Elin)
* Adfer wal 'Cofiwch Dryweryn' yn Llanrhystud (Cynigir gan Rhanbarth Ceredigion)

12.45pm - Cyhoeddi canlyniadau etholiad am le ar Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

12.50pm - Araith Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.00pm - Torri i ginio

2.00pm - Etholiadau ar gyfer swyddi gwag a swyddi newydd ar y Senedd.

2.10pm - Sesiwn "Hybu'r Frwydr trwy'r Sin Gerddoriaeth Cymraeg".

3.40pm - Gorffen - Ymlaen i wylio Cymru yn curo Lloegr!

Os ydych yn aelod o'r Gymdeithas ac am ddanfon cynnig neu gwelliant i un o'r cynnigion uchod - bydd angen i chi eu danfon at y swyddfa cyn 10am dydd Sadwrn yr 2il o Chwefror: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Prif Swyddfa, Llawr Gwaelod, Pen Roc, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ.

Mae yna 3 swydd gwag ar y senedd sef:
1. Swyddog Codi Arian
2. Swyddog Polisi Cymunedau Rhydd
3. Cydlynydd ymgyrch Gwreiddiwn yn y Gymuned

Os oes gennych ddiddordeb yn un o'r swyddi neu am enwebu person arall ar gyfer un o'r swyddi cysylltwch a'r brif swyddfa dafydd@cymdeithas.org neu 01970624501 gan ofyn am ffurflen enwebu.

Bydd gig yn dilyn y Cyf Cyff yn y Cwps gyda Bob Delyn, Yr Ods a Meibion Ffred £6 wrth y drws. Mwy o fanylion a poster i ddilyn yn yr adran y gigs!
Rhithffurf defnyddiwr
Angharad Clwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 125
Ymunwyd: Maw 25 Mai 2004 8:35 am
Lleoliad: Llandysul

Re: 2/2/08 Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 23 Ion 2008 2:21 pm

Ebost at aelodau a chefnogwyr CYIG a ddywedodd:Annwyl gyfaill,

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Ddydd Sadwrn Chwefror 2il 2008 yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth.

Hwn yw un o brif ddigwyddiadau Cymdeithas yr Iaith yn ystod y flwyddyn, a gobeithio felly y bydd nifer fawr o aelodau a chefnogwyr yn gallu dod.

Bydd cynigion pwysig yn ogystal â thrafodaeth ar Ddeddf Iaith, dyfodol ein cymunedau ac ysgolion gwledig, a bydd sesiwn arbennig yn y prynhawn ar 'Hybu'r Frwydr drwy'r Sin Roc Gymraeg'.

Am amserlen fanwl ewch at: http://cymdeithas.org/2008/02/02/cyfarf ... twyth.html

Bydd pob dim yn dod i derfyn cyn 4yh fel bod digon o amser i bawb i fynd i wylio Cymru yn curo Lloegr yn y rygbi sy'n cychwyn am 4.30yh! :-)

A chofiwch am y gig gyda'r hwyr yn y Cwps, yn cychwyn am 9yh, gyda Bob Delyn, Yr Ods a Meibion Ffred (£6).

Gobeithio y gwela'i chi 'na!

Hywel Griffiths,
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

====================================================

Dylai'r rhai ohonoch chi sydd yn aelodau cyfredol o Gymdeithas yr Iaith fod wedi derbyn ffurflen bleidleisio ar gyfer swyddi ar Senedd y Gymdeithas 2008/2009, ffurflen enwebiadau ar gyfer swyddi gwag, a rhestr o gynigion y Cyfarfod Cyffredinol yn y post yn ystod y dyddiau diwethaf.

Cofiwch fod angen dychwelyd y ffurflenni ac unrhyw welliannau i'r cynigion i Swyddfa Cymdeithas yr Iaith, Pen Roc, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ cyn 10am Sadwrn Chwefror 2il 2008.

Mae un swydd ychwanegol sydd yn wag hefyd erbyn hyn sef Swyddog Cyfathrebu a Lobïo Deddf Iaith. Ychwanegwch eich enwebiad ar gyfer y swydd hon ar y ffurflen enwebiadau.

====================================================

Yw eich aelodaeth wedi dod i ben? Mae modd ymaelodi ar-lein yma:
http://cymdeithas.org/ymuno/

Beth am wneud cyfraniad, neu brynu un o nwyddau Cymdeithas yr Iaith?:
http://cymdeithas.org/cyfrannu/
http://cymdeithas.org/nwyddau/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron