9.2.08 : Diwrnod Cymraeg, Abergele

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

9.2.08 : Diwrnod Cymraeg, Abergele

Postiogan Menter Iaith Conwy » Maw 22 Ion 2008 3:02 pm

Mae Menter Iaith Conwy wedi trefnu diwrnod o weithgareddau Cymraeg yn ardal Abergele, sydd i'w gynnal yno ar dydd / nos Sadwrn, Chwefror 9fed. Dyma i chi'r manylion -

Sadwrn Siarad

Sadwrn Siarad i Ddysgwyr Cymraeg, i'w gynnal yn Ty Hesketh, Abergele am 11:00am. Addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob lefel.

Cyfeiriannu (Orienteering)

Pnawn o gyfeiriannu rhwng 1:00pm - 4:00pm, yn Parc Pentre Mawr, Abergele. Mae'r digwyddiad yma yn addas ar gyfer y teulu oll.

Sesiwn Acwstic Cymraeg

Sesiwn Acwstic yng nghwmni Dan Amor, yn Nhafarn Y Bull, Abergele, gan gychwyn am 9:00pm. Mynediad am ddim!
Menter Iaith Conwy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Gwe 13 Ion 2006 9:46 am
Lleoliad: yn y Swyddfa

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron