4-6 Ebrill : Cwrs Sgwennu Comedi : Ty Newydd

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

4-6 Ebrill : Cwrs Sgwennu Comedi : Ty Newydd

Postiogan Olwen Dafydd » Maw 29 Ion 2008 2:11 pm

Sgwennu Comedi
Cwrs yn Nhŷ Newydd

4ydd - 6ed Ebrill

Tiwtoriaid: Mei Jones a Tudur Owen

Pris arbennig: £90 (drwy gydweithrediad BBC Radio Cymru)

*Bydd chwaneg o fanylion yma'n fuan iawn!*

01766 522811 post@tynewydd.org
Olwen Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 4:47 pm
Lleoliad: Ty Newydd

Re: 4-6 Ebrill : Cwrs Sgwennu Comedi : Ty Newydd

Postiogan Olwen Dafydd » Maw 05 Chw 2008 12:43 pm

Wel, dyma ni o'r diwedd gydag ychydig o fanylion am y cwrs 'Sgwennu Comedi':

All neb eich dysgu i fod yn ddoniol. Ond yn ystod y penwythnos yma fe gewch eich annog a'ch helpu i wneud y gorau o'ch hiwmor arbennig chi. Trefnir y cwrs mewn cydweithrediad efo BBC Radio Cymru ac er y bydd cyfle i sgwennu comedi o bob math bydd pwyslais ar sgwennu ar gyfer radio. Mae croeso arbennig i rai sydd eisoes yn sgwennu pethau ar gyfer eu cymuned leol ac awydd mentro ymhellach.

Mei Jones
Yn frodor o Landdona ar Ynys Môn, bu bellach yn actio, sgriptio a chyfarwyddo ers deuddeg mlynedd ar hugain. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws. Ar y radio, bu’n rhan o dîm ‘Pupur a Halen’ ac ‘Wythnos i’w Anghofio’, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd dair cyfres yr un o ‘C’Mon Midffild’ ac ‘Anturiaethau Dic Preifat’. Yn ddiweddar, fe’i gomisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw ‘Planed Patagonia’.


Tudur Owen
Wedi blynyddoedd mewn gwahanol swyddi yn cynnwys ymgymerwr ffensio trôdd at nosweithiau llawen yn perfformio ac ysgrifennu sgetsus a stand up. Bu’n rhan o griw fu’n cynnal nosweithiau stand up ar hyd a lled Cymru am ymron i ddeng mlynedd. Mae’n perfformio comedi stand up yn Saesneg yn wythnosol, yng ngogledd orllewin Lloegr yn bennaf. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyfresi teledu a radio gan gynnwys CNEX, Y Rhaglen Wirion ‘Na, Post Mortem a Bwletin. Yn fwy diweddar mae wedi ysgrifennu a pherfformio rhaglenni sgetsus “MAWR” ar gyfer S4C â “Sioe PC Leslie Wynne”. Enillydd gwobr “The Last Laugh” BBC 3 ar gyfer ysgrifennu comedi. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres gomedi sefyllfa i S4C, ynghyd â pharatoi sioe stand up i’w pherfformio yn ngŵyl Caeredin eleni.

Cysylltwch yn o handi i roi eich enwau i lawr ar gyfer y cwrs hwn - £90 am lety a bwyd ac arbenigedd dau diwtor gwych, mae'n andros o fargen!

post@tynewydd.org 01766 522811
Olwen Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 4:47 pm
Lleoliad: Ty Newydd


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron