Tudalen 1 o 1

RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 1:09 pm
gan Lewis
Shwmae bawb!
Mae'n fwriad gan griw ohonon ni i drefnu aduniad o gyn-ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau.
Mae pwyllgor bach wedi ei ffurfio, a'r olwynion yn troi. 'Dyw'r lleoliad ddim wedi ei benderfynu eto - Llety Parc, Marine, tafarn Rhydypennau? unrhyw syniadau? Mae'r momentwn yn cynyddu, a gobeithio y cawn ni aduniad llawn sbort! :D

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 3:07 pm
gan Rhian G
Shwmae Lewis, fe fydda' i yno yn sicr :D a dw i'n gwybod am lawer iawn o'r un flwyddyn a fi sydd wedi dweud y byddan nhw yno hefyd. Dw i'n eitha' "excited" i ddweud y gwir! :wps:

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 3:45 pm
gan joni
Diddorol. Pryd ma hwn fod digwydd?

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Llun 14 Ebr 2008 8:52 am
gan Ray Diota
joni a ddywedodd:Diddorol. Pryd ma hwn fod digwydd?


ategaf!

pwy welodd 'lle aeth pawb?' neithiwr de? rhaglen fach neis...

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Maw 15 Ebr 2008 11:41 am
gan tafod_bach
wwwww! ga i ddod?

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Maw 15 Ebr 2008 2:27 pm
gan Lewis
Ni'n bwriadu trefnu'r aduniad tuag amser Nadolig yn ardal Bow Street...........watch this space :gwyrdd:

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:45 pm
gan Rhian G
Erbyn pryd fydd y manylion ynglyn a'r aduniad yn barod?

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:47 pm
gan Lewis
Bydd y cyfan yn 'rocio' erbyn dechrau Tachwedd! wo-hoi!

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:57 pm
gan Y Duw Lenyddol
ydy hwn yn gyfyngedig i ryw gyfnod yn hanes yr ysgol? neu yn agored i bawb?

Re: RHYDYPENNAU - aduniad!

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 12:55 pm
gan Rhian G
Lewis, Cofia bydd angen tipyn o amser i gysylltu a nifer o bobol sy'n byw dramor erbyn hyn. Wedyn bydd eisie iddyn nhw drefnu 'flights' etc. on' bydd? Bydden i'n awgrymu bo ti'n dechre cysylltu gyda phobl tua Mis Medi. Dw i'n excited!