Tudalen 1 o 1

18.04.08 Noson Jazz, Morlan, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 11:36 am
gan EBC
Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cyflwyno...

:D BURUM :D

Noson anffurfiol o jazz i ddathlu codi £250,000 i apêl Sierra Leone Cymorth Cristnogol.

Digonedd o fwyd a diod Masnach Deg i'w gnoi a'i yfed.

Tocynnau yn £5 (£3 i blant 16 neu iau) ac ar gael ar y drws; dechrau am 7.30.

Burum ar MySpace...

Re: 18.04.08 Noson Jazz, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 12:05 pm
gan sian
Dyna syniad da.
Mae eisiau dathlu weithiau!
Yn Nhrefor, wnaethon ni hel darnau 5c mewn jar fach ar gyfer apêl Sierra Leone - mae'n syndod faint wnaethon ni gasglu.
Rydyn ni am ddal ati i wneud ar gyfer apêl Cymorth Cristnogol yr Annibynwyr.

Rhowch wybod shwt eith hi - ry'n ni (wel dw i) ffansi cael Noson Cyrri ar y cyd â Gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol - gawn ni weld beth ddaw.

Un peth - lle mae'r Noson Jazz? - eisie rhoi hynny yn nheitl yr edefyn.

Re: 18.04.08 Noson Jazz, Morlan, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Mer 16 Ebr 2008 8:40 am
gan EBC
Peidiwch ag anghofio am hwn! Yr hanes ar Jonsi unrhyw funud nawr.

Siân - rhowch wybod am hanes y noson gyri!