Protest Cadwn ein Hysgolion
9.30am
Tu fas i adeilad y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin
Dere i gefnogi Ysgol Carreg Hirfaen dydd Gwener tu fas i'r Cyngor Sir am 9.30am. Fe fydd y Cyngor Llawn yn trafod penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i gymeradwyo adroddiad blynyddol y swyddogion addysg ar eu cynllun nhw i foderneiddio addysg y sir.
Mae'r adroddiad yma yn bwriadu cau 11 o ysgolion bach y sir a peryglu 2 o 3 ysgol sydd yn rhan o ysgol ffedereiddiedig Ysgol Carreg Hirfaen.
Darllena mwy am Carreg Hirfaen yma:
http://cymdeithas.org/2008/07/10/her_i_ ... r_gar.html
Crewyd y cynllun addysg yma gan 3 neu 4 swyddog addysg tu ol i ddrysau caeedig a does dim trafodaeth wedi bod gyda cymunedau ynghylch yr hyn yr hoffen nhw weld yn digwydd yn eu cymunedau!