4.10.08: Gweithdy CLERA: Canolfan Gartholwg

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

4.10.08: Gweithdy CLERA: Canolfan Gartholwg

Postiogan cwrwgl » Mer 10 Medi 2008 7:25 pm

Gweithdy Gwerin CLERA
(Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru)

Dydd Sadwrn, 4 Hydref 2008
10.00am - 4.30pm
Canolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf

Dosbarthiadau:
Telyn - Lon Wright
Ffidil A - Gerald Kilbride
Ffidil B - Gareth Westacott
Ffliwt - Elin Roberts
Pipau a Phibgyrn - Antwn Owen Hicks a Gafin Morgan

Cost mynychu'r gweithdy - rhwng £8 a £15 (gweler y ffurflen gofrestru am fanylion llawn)

Sesiwn anffurfiol i ddilyn, o 7.30pm, yn y Mochyn Du, Caerdydd.

Manylion pellach a ffurflen gofrestru i'w cael ar wefan CLERA
http://www.clera.org

Croeso i bawb.
Ymunwch yn y chwyldro Gwerin!!! :D
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai