WYTHNOS YMA!
Martyn, Mam a'r Wyau Aur
Canolfan Mileniwm Cymru
15 Rhagfyr: 1pm a 5.30pm
16 Rhagfyr: 10am, 1pm a 5.30pm
17 Rhagfyr: 1pm
Tocynnau: £6
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau: 08700 40 2000 neu ewch i yganolfan.org.uk i archebu.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol pantomeim Martyn Geraint yn y Ganolfan y llynedd, mae'n dychweld yr wythnos yma gyda'i sioe newydd sbon danlli Martyn, Mam a'r Wyau Aur. Mae'r sioe yma'n addas i blant ysgol gynradd o bob oed.
Dewch draw i weld sioe llawn hwyl, lliw a cherddoriaeth.....ac ambell un o'r pypedau yr oedd y plant wedi gwirioni arnyn nhw y llynedd!
Cliciwch yma am fanylion: http://www.wmc.org.uk/index.cfm?UUID=9E13BF66-D712-FEB8-FE45D16B6134D0E3