12/03/09: Cyfarfod i drafod y Gorchymyn Iaith, Caernarfon

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

12/03/09: Cyfarfod i drafod y Gorchymyn Iaith, Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 09 Maw 2009 12:47 am

Yn dilyn cyhoeddiad ar y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad. Un o'r lleoliadau yma yw Caernarfon:

Yr Institiwt, Caernarfon am 7.30pm ar yr 12fed o Fawrth

Panelwyr:
Dafydd Iwan (Llywydd Plaid Cymru)
Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith)
Aran Jones (Cymuned)

Pwrpas y fforymau yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Williams bethan@cymdeithas.org neu'r brif swyddfa ar 01970 624501
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 12/03/09: Cyfarfod i drafod y Gorchymyn Iaith, Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 12 Maw 2009 2:25 pm

Cofiwch am hwn yn Caernarfon heno...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron