Yn dilyn cyhoeddiad ar y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad. Un o'r lleoliadau yma yw Caerdydd:
Y Duke of Clarence, Caerdydd am 7.30pm ar yr 16eg o Fawrth
Panelwyr:
Leanne Wood (Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith)
Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith)
Aled Elwyn Jones (Strata Matrix)
Pwrpas y fforymau yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Williams bethan@cymdeithas.org neu'r brif swyddfa ar 01970 624501