Agor Llwybr Gwyn Plas
Bydd achlysur arbennig yn ardal Llithfaen ar bnawn Sul, 3ydd o Fai - agorir Llwybr Gwyn Plas a dadorchuddir Cofeb y Chwarelwyr. Bydd seremoni yn y maes parcio ym Mhen y Nant, rhwng Llithfaen a Nant Gwrtheyrn am 2yp.
Dadorchuddir meini cerfiedig ithfaen yr Eifl o waith y cerflunydd Roland George - meini a ysbrydolwyd gan hanes chwareli a chymdeithas chwarelwyr yr Eifl, bydd cyfle i gerdded y llwybr a mwynhau adlonaint gan Gai Toms yn ddiweddarach. Croeso i bawb.
Mae Llwybr Gwyn Plas yn gofeb fyw i un a gyfranodd cymaint i fywyd cymdeithasol Llithfaen ac wedi'i greu gydag arian ei gronfa a noddwyr eraill. Mae'n ddwy filltir o gylchdaith o gwmpas rhan ucha'r pentref, yn cynnwys Gwylfa yn enwi'r mynyddoedd sydd i'w gweld ar y gorwelion a chwe charreg wybodaeth bellach am hanes a threftadaeth yr ardal. Mae'r llwybr hefyd yn ddolen rhwng y pentref a nifer o lwybrau cerdded eraill sy'n croesi'r fro.
Derbyniodd Gronfa Gwyn Plas roddion niferus gan bobl o ardal eang er cof amdano. Denwyd nawdd pellach gan Gronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru, a Chronfa Datblygu Cynaliadwy, AHNE Llyn.
http://www.tafarnyfic.com