Rhaglen Bedwen Lyfrau Aberystwyth 2009
Dydd Sadwrn yr 2il o Fai, Canolfan Arad Goch, Aberystwyth
Croeso i bawb. Mynediad am ddim!
I oedolion
10.15 Cerddi a Baneri
Dafydd Morgan Lewis yn holi Hywel Griffiths a Robat Gruffudd am eu cyfrolau newydd o gerddi.
11.15 Aber: Lle yn ein Llên
Catrin Beard yn llywio trafodaeth rhwng Geraint Evans, Eurig Salisbury a Gareth F. Williams am Aberystwyth fel lleoliad ar gyfer llenyddiaeth.
2.00 Dala’r Llanw Anweledig
Jon Gower a Llion Iwan yn trafod eu nofelau diweddaraf gyda Catrin Beard.
3.30 Llyfr y Flwyddyn Dogfael
Lyn Lewis Dafis yn cynnig ei restr amgen ef o 10 cyfrol ddylai fod yn Llyfr y Flwyddyn 2009.
4.30 Gwobr Bedwen Lyfrau
Cyflwyno tlws cyfraniad oes i awdur sydd wedi poblogeiddio darllen.
Digwyddiadau i blant drwy'r dydd hefyd