19.9.09 : Gweithdy Clera : Sain Ffagan

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

19.9.09 : Gweithdy Clera : Sain Ffagan

Postiogan cwrwgl » Mer 29 Ebr 2009 2:25 pm

GWEITHDY CERDDORIAETH DRADDODIADOL CLERA

Dydd Sadwrn 19 Medi 2009
10.00 tan 4.30
Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

Cyfle i wella eich chwarae ac i ddysgu rhai o alawon gwerin Cymru.

"Cerddorion blaenllaw yn y maes yn arwain nifer o weithdai offerynnol ar gyfer ffidil, ffliwt, chwibanogl, pib, pibgorn a thelyn, er mwyn cyflwyno cerddoriaeth werin Gymreig i offerynwyr sy'n newydd i'r maes ac i galonogi a diwygio chwarae offerynwyr profiadol"

£15 oedolion (£12 aelodau)
£10 gostyngiadau (£8 aelodau)
£5 dosbarthiadau prynhawn

manylion llawn i ddilyn.
http://www.clera.org


...ac i ddilyn y gweithdy, gyda'r hwyr

SESIWN WERIN
lleoliad i'w gadarnhau


Dwi'n rhoi digon o rybudd, er mwyn i chi gael dystio'ch ffidil / tiwnio'ch telyn, ac ymarfer scales & arpeggios D a G (rhan fwya o'r alawon yn cael eu dysgu yn D neu G)!


sori - o'n i'n trio neud y peth calendr. Dyna pam mae hwn yma ddwywaith :wps:
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: 19.9.09 : Gweithdy Clera : Sain Ffagan

Postiogan cwrwgl » Maw 08 Medi 2009 1:21 pm

Y Manylion diweddaraf:

Cofrestru 10am
Cyd chwarae ar y diwedd 3.30 - 4.30pm
Sesiwn nos yn y Fino Lounge, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd 8.30pm


Dosbarthiadau'r Gweithdy:

• Offerynnau Alaw 1 - Gerald Kilbride
Ar gyfer chwaraewyr profiadol
Arweiniad ar sut i roi bywyd i alawon gwerin Cymreig.

• Telyn 1 - Robin Huw Bowen
Ar gyfer chwaraewyr profiadol
Sut i ddefnyddio cordiau a chyfeilio.

• Pibgorn, Pibau, Chwiban - Antwn Owen Hicks a Gafin Morgan
Pob gallu
Alawon addas i'r hen offerynnau.

• Telyn 2 - Delyth Jenkins
I ddechreuwyr a rhai gydag ychydig o brofiad
Sut i ymuno ag eraill yn chwarae alawon gwerin.

• Offerynnau Alaw 2 - Sion Gwilym ac Angharad Jenkins
I ddechreuwyr a rhai gydag ychydig o brofiad
Sut i ymuno ag eraill yn chwarae alawon gwerin gan symlhau alawon os oes angen.

manylion pellach:
gweithdycaerdydd@googlemail.com
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai