14.05.09: Lansiad Tu Chwith: Palas Print C'narfon

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

14.05.09: Lansiad Tu Chwith: Palas Print C'narfon

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 08 Mai 2009 5:29 am

Nos Iau, 14eg o Fai 2009:

Lansiad rhifyn 'Na' o'r cylchgrawn Tu Chwith

PALAS PRINT, Stryd y Plas, Caernarfon

gyda

GWILYM MORUS
HUW AG MEI
DJ DAZ TANDY

6.30pm

Gwydred o win am ddim!

Digwyddiad ar facebook:

http://www.facebook.com/event.php?eid=8 ... 342&ref=ts

-----

Bydd Daz Tandy yn cyflwyno perfformiadau gan Gwilym Morus, Huw Lloyd a Meilyr Tomos a darlleniadau gan gyfranwyr eraill y gyfrol.

Daeth Daz i amlygrwydd gyda ei sioe radio gerddoriaeth amgen ar Radio Ysbyty Glangwili yn y 90au (ble y daliodd MRSA). Mae'r DJ poblogaidd yma bellach wedi ymgartrefu yn Rhostrehwfa ac yn gweithio i'r label danddaearol 'Dasal'. Mae Daz hefyd yn hoffi llyfrau.

Dau frawd amryddawn o Brestatyn ydi Huw ag Mei, sy'n dipyn o sêr ar y sîn canu gwlad gyda'u caneuon poblogaidd 'Haliwr' a 'Cachwn yn y Bwlch'.

Yn gyn-aelod o'r grŵp Bwyell, mae Gwilym Morus yn adnabyddus iawn am ei gerddoriaeth roc metal ac yn ddiweddar, mae wedi cael cryn lwyddiant gyda ei albwm newydd 'Kill your Motherfuckin Pets (Then Eat Them)'.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: 14.05.09: Lansiad Tu Chwith: Palas Print C'narfon

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 11 Mai 2009 9:00 pm

*bwmp!*
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: 14.05.09: Lansiad Tu Chwith: Palas Print C'narfon

Postiogan SerenSiwenna » Maw 19 Mai 2009 10:39 am

Damnia!

Dwi newydd gweld hwn ar ol googlo Tu Chwith gan fy mod am wybod beth oedd hanes y rhifyn: "Na!" erbyn hyn, a dyma fi felly wedi missio'r lansiad :ing:

Fyswn i wedi hoffi mynd i hwn, gan fy mod wedi cyfrannu ac am cyfrannu i'r un nesaf os caf y cyfle :(

Dwi'n meddwl fysa fo wedi bod yn syniad reit neis, a pharchys ella, i anfon ebost i cyfrannwyr y gyfrol yma er mwyn gadael iddyn nhw wybod fod lansiad yn digwydd? Neu ella ei rhoi ar wefan Tu Chwith hyd ynoed?

Oes testyn ar gyfer y gyfrol nesaf eto? A dyddiad cau ella?

Eniwe, oes rhywyn ar y maes 'ma wedi bod yn un o'r cyfrannwy'r lwcus a chafodd mynychu'r lansiad? Sut noson oedd hi?

Seren, concerned-in-Tumbridge-Wells!
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: 14.05.09: Lansiad Tu Chwith: Palas Print C'narfon

Postiogan Ray Diota » Maw 19 Mai 2009 3:20 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Sut noson oedd hi?


Delwedd
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 14.05.09: Lansiad Tu Chwith: Palas Print C'narfon

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 02 Meh 2009 2:47 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Damnia!

Dwi newydd gweld hwn ar ol googlo Tu Chwith gan fy mod am wybod beth oedd hanes y rhifyn: "Na!" erbyn hyn, a dyma fi felly wedi missio'r lansiad :ing:

Fyswn i wedi hoffi mynd i hwn, gan fy mod wedi cyfrannu ac am cyfrannu i'r un nesaf os caf y cyfle :(

Dwi'n meddwl fysa fo wedi bod yn syniad reit neis, a pharchys ella, i anfon ebost i cyfrannwyr y gyfrol yma er mwyn gadael iddyn nhw wybod fod lansiad yn digwydd? Neu ella ei rhoi ar wefan Tu Chwith hyd ynoed?

Oes testyn ar gyfer y gyfrol nesaf eto? A dyddiad cau ella?

Eniwe, oes rhywyn ar y maes 'ma wedi bod yn un o'r cyfrannwy'r lwcus a chafodd mynychu'r lansiad? Sut noson oedd hi?

Seren, concerned-in-Tumbridge-Wells!


SerenSiwenna - Sori ges ti wahoddiad i'r lansiad Tu Chwith.
Mi nes i e-bostio cyfrannwyr, ond mae'n rhaid fy mod i wedi drysu gan i ti ddefnyddio pseudonom efallai a bod gymaint o amser wedi pasio er pryd i ti ddanfon dy waith i mewn. Sori mawr am hyn.

Gyda llaw, mae croeso i ti ac unrhyw un arall ar y maes gyfrannu at y rhifyn nesaf o Tu Chwith. Y thema tro hyn ydi 'creu'. Anfona dy waith at tuchwith[AT]hotmail[DOT]com

Diolch am dy gyfraniad i'r gyfrol ac ymddheiriadau unwaith eto na ges ti wybod am y lansiad mewn pryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron