NOS LUN, 18 MAI, 4.00-5.00 O'R GLOCH - gwrthdystiad i wrthwynebu cynnig gan Brifysgol Caerdydd i ddileu holl gyrsiau'r Dyniaethau yng Nghanolfan Caerdydd ar gyfer Addysg Gydol Oes.
Byddai cynnig y Brifysgol yn golygu dileu cyrsiau a gaiff eu rhedeg gan y Ganolfan Addysg Gydol Oes ym meysydd y Gymraeg, hanes ac archaeoleg, llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol, pensaerniaeth, cerddoriaeth, athroniaeth, lle^n gwerin, ffotograffiaeth, celf a chrefydd o fis Medi 2009 ymlaen, yn ogystal a^ pheryglu swyddi darlithwyr a thiwtoriaid. Mae'n debyg y bydd Cyngor y Brifysgol yn penderfynu ar y cynnig yn eu cyfarfod am 5.00 nos Lun, 18 Mai.
Caiff y gwrthdystiad ei gynnal o flaen PRIF ADEILAD Y BRIFYSGOL, Heol y Parc, Caerdydd. Croeso i unrhyw un ddod i ddangos eu cefnogaeth.