Nos Fercher 10fed Mehefin
Ystafell Gymunedol Tafarn y Fic, Llithfaen
7:30 yr hwyr
Ticedi am £1.50 - i archebu ffoniwch Nia ar 01758 750473, neu eBostiwch swyddfa@tafarnyfic.com
http://www.tafarnyfic.com
Wil Sam y dewin geiriau - Cyflwyniad gan Stewart Jones (Theatr Bara Caws)
Fel un fu'n gyfaill, cydweithiwr ac yn aml iawn yn ysbrydoliaeth i'r diweddar Wil Sam Jones mae Stewart Jones mewn lle unigryw i gyflwyno sgwrs yn frith o atgofion am fywyd a gwaith y Dewin geiriau o Eifionydd.
Yn ei ffordd ddihafal ei hun fe fydd Stewart yn cyflwyno cymysgedd o atgofion a detholiadau o gerddi, ysgrifau a dramau Wil Sam a'u plethu i gynnig awr a hanner o ddifyrrwch pur. Cyfle i glywed hen ffefrynnau ac ambell i em aeth yn angof, ac efallai'n wir y cyfle prin i gyael cyfarfod Ifans y Tryc unwaith eto.