O Walia i Washington
Nos Iau 2 Gorffennaf 2009, 7.30 pm
Y Fuwch Goch, Stryd Womanby, Caerdydd
Tocynnau: £4.00 / £3.00
Yn ystod mis Mawrth eleni aeth yr Academi â phump o awduron ifainc mwyaf dawnus Cymru i brifddinas yr Unol Dalaethau am wythnos o ddathlu llenyddiaeth gyfoes Cymru. Yn dilyn llwyddiant ysgubol O Walia i Washington, mae'r Academi wedi terfnu digwyddiad arbennig a fydd yn dod a'r awduron anturiaethus hyn nôl at ei gilydd mewn noson ddwyieithog o farddoniaeth, rhyddiaith a cherddoriaeth.
Yn perfformio bydd yr awdur taith a'r syrffiwr penigamp, Tom Anderson; y llenor a'r ymgyrchydd, Catrin Dafydd; y bardd a'r cynganeddwr o fri, Eurig Salisbury, a'r awdur a'r cerddor amryddawn, Fflur Dafydd.
Trefnwyd O Walia i Washington fel rhan o weithgareddau Smithsonian Cymru 2009 i ddathlu presenoldeb Cymru fel gwlad gwadd yng Ngw^yl Werin y Smithsonian a gynhelir yn Washington rhwng 22 Mehefin a 5 Gorffennaf.
I archebu tocynnau cysylltwch a^'r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org