07/08/09 - Cwmni Theatr 3D yn yr Eisteddfod - Y Bala

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

07/08/09 - Cwmni Theatr 3D yn yr Eisteddfod - Y Bala

Postiogan Shancen fach » Llun 29 Meh 2009 5:51 pm

Cwmni Theatr 3D ….
yn cyflwyno dwy ddrama ar y thema Darganfyddiad
Yn ôl eu harfer o roi llwyfan i ysgrifennu newydd, ag atgyfodi clasuron.

Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau
Nos Wener, Awst 7fed, 2009. 8yh



'Y Twr’
Gan Gwenlyn Parry


Dyma gyfle i weld detholiad o un o ddramau Gwenlyn Parry a oedd yn ddrama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd nôl yn 1978.
Dyma daith bywyd gwr a gwraig wrth iddyn nhw ddringo twr bywyd. Gwelir hwy yn heneiddio, a'r dieithrwch rhyngddynt yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo.

Cast: Glenn Jones, Elin Wmffras
Cyfarwyddwr: Hannah Wynn Jones


Ac hefyd …drama fer newydd



‘Sawl yn Syrthio’
Gan Glenn Jones


Diffiniad y geiriadur o "SYRTHIO":-
'Disgyn yn sydyn, cwympo, codwm, cwympo o fan uchel gyda nerth disgyrchiant; lleihau gwerth; llai pwerus; teimlad cariad; digwyddiad neu amod.'

Ond syrthio mewn ffordd wahanol iawn a wna'r pedwar cymeriad sy'n ganolog i'r ddrama hon.
Byddwn yn dyst i ddeilema Llio, Huw, Arwel a Meirion wrth iddynt sefyll ar eu dibyn personol nhw yn myfyrio dros yr ysfa bwerus i syrthio...neu ddim.

Cast: Elin Leyshon, Ceri Murphy, Aled Wyn Thomas a Ieuan Rhys

Cyfarwyddwr: William Gwyn

Bydd y ddrama hon hefyd yn rhan o gynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr 3D - Angel.


Dewch i gefnogi!
Shancen fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Sul 01 Mai 2005 10:57 am
Lleoliad: Caerdydd

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron