GWYL ARALL (another) Festival
Gorffennaf 17-19
CAERNARFON
Mae Gwyl Arall yn wyl newydd sbon, ac yn benwythnos llawn dop o
ddigwyddiadau cerddorol, llenyddol a chelfyddydol, fydd yn digwydd yng
Nghaernarfon rhwng Gorffennaf 17-19.
Uchafbwyntiau yn cynnwys Mike Parker a Jon Gower yn siarad am eu
hobsesiwn gyda mapiau, Lloyd Jones yn hansio ei nofel Gymraeg gyntaf,
Gwyn Thomas yn holi Harri Parri a sesiwn ar y cyd gyda Steve Eaves a'i ferch,
Manon Steffan sydd newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion.
Bydd gig ecsglwsif ym Medi ar y nos Sadwrn, gyda Mr Huw, Eitha Tal
Ffranco, Yr Ods a Sweet Baboo, ynghyd a pherfformiadau dros y penwythnos
gan Meic Stevens, Llwybr Llaethog, Geraint Lovgreen, Dau Cefn, Cyrion, wUw,
Crav, PSI, Y Ffrwydron a Derwyddon Dr Gonzo.
Ar b'nawn Sadwrn, bydd yr artist Bedwyr Williams yn perfformio ei
bregeth Methodist to My Madness ar gwch bleser Queen of
the Sea a bydd y penwythnos yn arwain i ben gyda Pybcrol Llenyddol,
Pictiwrs yn y Pyb, Stomp a Barbaciw i gyfeiliant Y Ffrwydron.
Byddwn hefyd yn cynnal cystadleuaeth Ffotofarathon ar y dydd Sadwrn, gan
gyhoeddi'r enillwyr ar y prynhawn Sul.
Bydd y digwyddiadau yn cymryd lle yn Medi, Neuadd y Farchnad, y Con'
Club, Anglesey a'r Morgan Lloyd a'r bwriad yw creu bwrlwm ac afiaith
drwy'r holl dref dros y penwythnos.
Rydym yn dra diolchgar i'n noddwyr - Y Lolfa, Barcud, Seren Arian,
Cyngor Tref Caernarfon, Palas Print a Cymen.
Am ragor o wybodaeth am yr wyl, ewch i
http://www.palasprint.com/gwylarall neu ein tudalen ar Facebook.
Gallwch hefyd gysylltu gyda eirian@palasprint.com
BYDD YR AMSERLEN LAWN YN CAEL EI CHYHOEDDI DDECHRAU'R WYTHNOS NESA.
GWYLIWCH Y GOFOD HWN............