04/08/2009 : 'Oes modd i lywodraeth achub iaith' : Bala

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

04/08/2009 : 'Oes modd i lywodraeth achub iaith' : Bala

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 23 Gor 2009 10:19 am

Oes modd i lywodraeth achub iaith?
Dydd Mawrth, 4 Awst 2009 am 2 o’r gloch
Pabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a’r Cyffiniau 2009, y Bala

Sesiwn holi ac ateb i drafod dyfodol y Gymraeg yng nghwmni:
Alun Ffred Jones AC/AM - Y Gweinidog dros Dreftadaeth
Menna Machreth - Cadeirydd/Chair
Ian Rees - Pennaeth/Principal
Meri Huws - Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Simon Brooks - Darlithydd Prifysgol Caerdydd
Cadeirydd - Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg

Os hoffech ofyn cwestiwn i’r panel, bydd modd i chi ei gynnig ymlaen llaw drwy e-bost cymraeg@cymru.gsi.gov.uk , neu ar y ffôn 029 2082 6387 erbyn 28 Gorffennaf.

Fel arall, dewch yn llu i Babell y Cymdeithasau am 2 o’r gloch ar 4 Awst

cymru-ddwyieithog.jpg
cymru-ddwyieithog.jpg (65.76 KiB) Dangoswyd 1208 o weithiau
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron