gan Hedd Gwynfor » Iau 23 Gor 2009 12:13 pm
Mae’r amser yn dod i Ben...
Mae’r broses o drosglwyddo pwerau o San Steffan i’r Cynulliad yn llawer rhy araf. Os na fydd y Gorchymyn Iaith wedi ei basio cyn yr etholiad, fe fydd rhaid dechrau’r broses lafurus hon eto ac ni fydd amser gan y Cynulliad i basio mesur cyn diwedd y tymor presennol.
San Steffan yn mynnu llusgo traed ar bwnc yr iaith
Mae’r ffaith ein bod ni yn gorfod mynd at Lundain a begian am bwerau dros y Gymraeg yn brawf o’n israddoldeb fel cenedl. A nawr ein bod yn cael y cyfle i drosglwyddo’r pwerau dros y Gymraeg i Gymru, mae aelodau o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ceisio eu gorau glas i lusgo traed fel na fydd y Gorchymyn yn cael ei basio am amser hir. Mae eu adroddiad diweddar yn dangos pa mor wrthwynebus ydyn nhw tuag at hawliau iaith a chryfhau statws y Gymraeg yng Nghymru.
Peter Hain a’i system LCO
Os na fydd yr LCO’n cael ei basio, bydd hyn yn dangos faint o ffars yw’r broses ac yn embaras mawr i Peter Hain, yr Ysgrifennydd Gwladol. Dyma gyfle felly i fynnu mwy yn y Gorchymyn oherwydd fod gymaint o bwysau ar y Llywodraeth i ddangos fod y system yn gweithio.
Ydi Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud digon?
Cyhoeddwyd adroddiad canmoladwy gan y Cynulliad yn galw am drosglwyddo’r holl bwerau dros y Gymraeg i Gymru. Ond y cwestiwn mawr yw hyn: a yw Alun Ffred Jones a Rhodri Morgan yn mynd i ddilyn yr egwyddor hwn a mynnu Gorchymyn ehangach a chryfach er mwyn y Gymraeg? Neu a ydyn nhw’n mynd i fodloni ar y drafft presennol?
Mae angen cryfhau’r elfennau hyn o fewn y Gorchymyn Iaith:
- dylai’r Gorchymyn gynnwys pwerau dros bob corff neu gwmni sy’n cynnig gwasanaeth i’r cyhoedd, er mwyn medru cynnwys archfarchnadoedd fel Tesco mewn mesur iaith. Dim ond cyrff a chwmnïau sy’n derbyn £200,000 o arian cyhoeddus sydd yn y Gorchymyn ar hyn o bryd, felly hawl amodol yn unig mae’r Gorchymyn yn ei addo
- mae angen cael gwared ar anghysondebau o fewn y Gorchymyn, e.e. cynnwys trenau ond nid bysus
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Fesur Iaith Cyflawn o’r Gorchymyn Iaith a fydd yn cynnwys:
- statws swyddogol i’r Gymraeg
- hawliau cyflawn ar draws bob sector
- Comisiynydd Iaith Gymraeg