Tudalen 1 o 1

04/08/09 > 08/08/09 Sioe Newydd Bara Caws - O'r Tu Ol - Bala

PostioPostiwyd: Iau 23 Gor 2009 4:10 pm
gan Krankski coch
THEATR BARA CAWS YN CYFLWYNO

'O'R TU OL' gan Tudur Owen

Sioe Glybiau newydd sbon yn Neuadd Llandderfel ger y Bala yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Y Bala

Nos Fawrth 4ydd o Awst-Nos Sadwrn 8fed o Awst.

Cychwyn am 8.00 bob nos ond 9.00 Nos Iau 6ed o Awst

Y cast- Lisa Jen Brown, Gwenno Elis Hodgkins, Robin Griffith, John Glyn Owen a Llion Williams
Cyfarwyddwr- Tudur Owen

Mae'r sioe glybiau yn ei hol eto eleni, mor wallgof a chyffrous ac erioed.
Ydach chi 'rioed wedi dyfalu sut le sydd gefn llwyfan mewn sioe glybiau Bara Caws? Wel, os dynnwch y llen yn ol fe gewch weld pob dim, ac os oeddech chi'n meddwl fod campau llwyfan y sioe glybiau yn gynhyrfus, 'da chi'n siwr o gael gwefr wahanol iawn wrth ei phrofi 'O'r Tu Ol'. Ymunwch a Ricky y rheolwr llwyfan wrth iddo frwydro i sicrhau fod y sioe yn mynd yn ei blaen er gwaethaf anturiaethau'r cast. Tra bod yr actores brofiadol Mona Medi a'i bryd ar ddial, Mae'r 'hunk', Gwyn Llyr mewn peryg o golli un o'i rannau pwysicaf heno. Ac wrth i'r hen stejar John Ff. geisio rhannu ei brofiad hir gyda'r dalent ifanc Tesni Mai, mae gan Ricky dasg anodd iawn ar ei ddwylo a dweud y lleiaf......

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Linda Brown 01286 676335 neu e-bostiwch baracaws@btconnect.com


4/8/09- 8/8/09 Neuadd Llandderfel ger y Bala

Ar daith Medi 8fed- Hydref 17

Re: 04/08/09 > 08/08/09 Sioe Newydd Bara Caws - O'r Tu Ol - Bala

PostioPostiwyd: Sul 02 Awst 2009 11:19 pm
gan DAN JERUS
Gennai syniad, be am safio lot o amser a dyfalu drwy alw'r sioe nesa'n "Gai ddangos fy nghoc ichi Ficar?" - sioe glybiau am foi sy'n gwahodd ei reolwr draw am swper er mwyn cael codiad(!!) cyflog.Yn ddiarwybod iddo, mae ei wraig wedi gwahodd y ficar draw am damaid (!!!!!!!) yr un noson. Be sydd i bwdin dybed? (!!!!!!!!!) Wel dyma ni halibalw!!! O, ac am ddim rheswm mwy nac i symyd y plot ymlaen, ma'e'r gwr wrth ei fodd yn dangos ei bidlan. Be amdani bois? Taflwch jocs i mewn am ddysgwyr, gwrwgydwyr a phobl o Wrexham a dyma ni sioe wallgof y bydd pawb yn siarad amdano ymhell ar ol stop tap(!!!!!!!!!!... oh fuck it)

Y Cast
Y boi 'na off Rownd a Rownd
Y boi 'na sy'n actio drwy sibrwd ei linellau a wincio ar yr un pryd (off Rownd a Rownd)
Y ddynas 'na off Rownd a Rownd
Y boi 'na odda chi'n meddwl odd wedi marw gan ei fod o ddim wedi gweithio ers "Minafon"

Re: 04/08/09 > 08/08/09 Sioe Newydd Bara Caws - O'r Tu Ol - Bala

PostioPostiwyd: Mer 05 Awst 2009 9:46 am
gan Krankski coch
:rolio: chillax Dan!

Re: 04/08/09 > 08/08/09 Sioe Newydd Bara Caws - O'r Tu Ol - Bala

PostioPostiwyd: Sul 09 Awst 2009 11:09 am
gan Dicsi
Dan Jerus - ai laic it, bril! :winc: