THEATR BARA CAWS YN CYFLWYNO
'O'R TU OL' gan Tudur Owen
Sioe Glybiau newydd sbon yn Neuadd Llandderfel ger y Bala yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Y Bala
Nos Fawrth 4ydd o Awst-Nos Sadwrn 8fed o Awst.
Cychwyn am 8.00 bob nos ond 9.00 Nos Iau 6ed o Awst
Y cast- Lisa Jen Brown, Gwenno Elis Hodgkins, Robin Griffith, John Glyn Owen a Llion Williams
Cyfarwyddwr- Tudur Owen
Mae'r sioe glybiau yn ei hol eto eleni, mor wallgof a chyffrous ac erioed.
Ydach chi 'rioed wedi dyfalu sut le sydd gefn llwyfan mewn sioe glybiau Bara Caws? Wel, os dynnwch y llen yn ol fe gewch weld pob dim, ac os oeddech chi'n meddwl fod campau llwyfan y sioe glybiau yn gynhyrfus, 'da chi'n siwr o gael gwefr wahanol iawn wrth ei phrofi 'O'r Tu Ol'. Ymunwch a Ricky y rheolwr llwyfan wrth iddo frwydro i sicrhau fod y sioe yn mynd yn ei blaen er gwaethaf anturiaethau'r cast. Tra bod yr actores brofiadol Mona Medi a'i bryd ar ddial, Mae'r 'hunk', Gwyn Llyr mewn peryg o golli un o'i rannau pwysicaf heno. Ac wrth i'r hen stejar John Ff. geisio rhannu ei brofiad hir gyda'r dalent ifanc Tesni Mai, mae gan Ricky dasg anodd iawn ar ei ddwylo a dweud y lleiaf......
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Linda Brown 01286 676335 neu e-bostiwch baracaws@btconnect.com
4/8/09- 8/8/09 Neuadd Llandderfel ger y Bala
Ar daith Medi 8fed- Hydref 17