Tudalen 1 o 1

Dewch ar 'wibdaith' o amgylch Archifau Prifysgol Bangor

PostioPostiwyd: Llun 27 Gor 2009 2:32 pm
gan Elinor Elis-Williams
Dewch ar 'wibdaith' o amgylch Archifau Prifysgol Bangor
Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau

11.00 dydd Mawrth 4 Awst
Stondin Prifysgol Bangor

Bydd Einion Wyn Thomas, Archifydd y Brifysgol, yn eich tywys ar wibdaith o amgylch rhai o drysorau Archifdy Prifysgol Bangor.

Yn yr Archifau ceir casgliad helaeth o ddogfennau, llawysgrifau a llyfrau prin sy’n adrodd hanes Cymru a thu hwnt. Mae'r casgliadau'n cynnwys hanes y Brifysgol, papurau ystadau a theuluoedd gogledd Cymru a llawysgrifau ar ffurf cofnodion llenyddol, hanesyddol a hynafiaethol. Ceir adlewyrchiad o fywyd a diddordebau pobl yng ngogledd Cymru o'r drydedd ganrif ar ddeg ganrif hyd heddiw.

Mae'r Archifdy ar agor i bawb, bum diwrnod yr wythnos.