Y PASTWN YN CYFLWYNO:
SIOE DATGEINIAETH A CHERDDWRIAETH
Y GLASFRYN
NOSON UNIGRYW AC ARBENNIG!
AM Y TRO CYNTAF ERS CANRIFOEDD MAITH!
yn y FIC, LLITHFAEN Nos Sadwrn 26 Medi 2009
gyda’r Meistri Twm Morys, Gwilym Morus, Gareth Sïon,
Rhys Trimble a’r Bob Delyn Bach
(datgeiniaid, beirdd o fri, telynorion
a cherddorion y ddwygerdd agos!)
O gyhoeddi’r adloniant amheuthun hwn mae’r Meistri Morys, Siôn, Trimble a Morus am sicrhau’r Bobol y bydd eu cynhyrchiad y noson honno gyda’r mwyaf YSBLENNYDD ac ANHYGOEL a welwyd erioed, a bod eu paratoadau yn arfaethedig ers tro byd.
Bydd MR G. SÏON yn cyflwyno cywydd i’r TELYNOR ENWOG,
SÏON EOS (yr hwn a oedd yn adnabyddus fel TELYNOR GORAU’R BYD yn ei ddydd!!!) GAN SEFYLL AR EI BEN!!!
Bydd Mr T. MORYS yn galw
PAWB AT DEWI,
ac i ryfel am y tro cyntaf ers oes yr arth a’r blaidd,
a hynny AR GEFN DAU GEFFYL
efo rhubanau
HEB RWYD DIOGELWCH!!!
Bydd MR Rh. TRIMBLE yn datgan ac yn llefaru ei ddanteithion cynganeddol
AR Y LLINYN TYNN!!!
Bydd MR G. MORUS yn creu TRAFFERTH MEWN TAFARN
am y tro cyntaf ers oes y pys a’r madarch
A’I BEN YNG NGHEG LLEW!!!
Dros ben y llestri ac yn dod at eu coed gyda cherddwriaeth gan y
BOB DELYN BACH a GWILYM MORUS
bydd
DATGEINIAID Y GLASFRYN yn herio’r
BYD I GYD!!!
Gweler y datganiad isod am fanylion llawn
******* Datganiad i’r Wasg *******
“Sioe Datgeiniaeth a Cherddwriaeth y Glasfryn”
Y Fic, Llithfaen, 8pm, 26 Medi
Y Datgeiniaid:
Twm Morys, Gareth Sïon, Rhys Trimble a Gwilym Morus
+
Cerddoriaeth gan Bob Delyn Bach a Gwilym Morus
• DEWCH I’R FIC!!! Dewch i’r Fic, Llithfaen ar 26 Medi i brofi ac i fwynhau swyn a chyfaredd “Sioe Datgeiniaeth a Cherddwriaeth y Glasfryn”.
• SIOE GERDDOROL A BARDDONOL!!! Sioe yw hon sy’n cynnwys cyfraniadau cerddorol a barddonol unigryw gan Twm Morys, Gareth Sïon, Rhys Trimble, Gwilym Morus a Bob Delyn Bach.
• DATGEINIAETH!!! Bydd y sioe’n cynnwys perfformiadau acwstig cerddorol hyfryd gan y Bob Delyn Bach a Gwilym Morus a datganiadau barddonol anhygoel o gerddi hen a newydd a hen iawn gan y Datgeiniaid Twm Morys, Gareth Sïon, Gwilym Morus a Rhys Trimble.
• YR HEN GERDD DAFOD YN YR HEN DDULL!!! Elfen bwysig o “Sioe Datgeiniaeth a Cherddwriaeth y Glasfryn” yw’r hen gerdd dafod yn yr hen ddull ar ei newydd wedd. Bydd perfformiadau barddonol y Datgeiniaid Morys, Sïon, Trimble a Morus yn cynnwys datgan cywyddau, awdl gywyddau, englynion a hen gerddi yn yr hen ddull canoloesol i guriad pastwn. Dewch i gael gwybod gwir ystyr cerdd dafod.
• DATGEINIAETH Y GLASFRYN!!! Mae’r perfformiadau wedi eu seilio ar ymchwil a threfniannau Peter Greenhill aka Y Glasfryn, arbenigwr ar yr hen gerddoriaeth Gymreig (y gerdd dant wreiddiol) a geir yn llawysgrif Robert ap Huw ac a recordiwyd ar y CD “Music from the Robert ap Huw Manuscript” gan y telynor Paul Dooley. ( Gweler: http://www.pauldooley.com )
• BOBOL BACH BOB DELYN BACH! Bydd y Bob Delyn Bach a’r trwbadwr acwstig, Gwilym Morus yn canu caneuon hen a newydd ynghyd â rhywbeth annisgwyl iawn i’ch diddanu.