Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Chwyldro Newydd yn y Cymoedd2pm, Hydref 24ain, 2009
Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful,SIARADWYR:Dafydd Wigley - Daeth yn aelod seneddol dros Caernarfon dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974, ac yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros yr un etholaeth yn 1999. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru gyntaf yn 1981, ac yna yn 1991.
Hywel Davies - Graddiodd o adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n gyn-Olygydd o'r 'Merthyr Express' a chyn-newyddiadurwr gyda HTV.
Catrin Dafydd - Mae Catrin Dafydd yn llenores llawrydd o Waelod-y-Garth ger Pontypridd ond bellach yn byw yn Sir Gâr. Bu'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a hi oedd Llywydd UMCA 2003-04.
Mae'r Rali yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith sy'n cael ei gynnal yn yr un lleoliad rhwng 10:30am-1pm
Croeso i bawbAm fwy o fanylion cysylltwch â Sioned Haf 02920 486469 /
sioned.haf@cymdeithas.org===================================