Cwrs i bobl ifanc 16 – 25 oed
Tachwedd 6 - 8
Tudur Dylan Jones a Catrin Dafydd
A ydych chi rhwng 16 – 26 oed? Eisiau’r cyfle i ‘sgwennu yng nghwmni tiwtoriaid proffesiynol? Mae hwn yn gwrs penwythnos sydd yn addas ar gyfer ysgrifenwyr o bob math, gan gynnwys dysgwyr. Bydd cyfle i gael sesiynau unigol gyda’r tiwtoriaid i drafod eich gwaith yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai gyda gweddill y grŵp.
COST: Preswyl: £100 di-breswyl: £50
Tudur Dylan Jones
Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995, pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym, yn archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef yw meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Aeth i’r Brifysgol ym Mangor ac y mae erbyn hyn yn athro ysgol yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2004 - 2005.
Catrin Dafydd
Llenores llawrydd o Waelod-y-Garth ger Pontypridd ond bellach yn byw yn Sir Gâr. Bu'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a hi oedd Llywydd UMCA 2003-04. Mae hi wedi cyhoeddi dwy nofel, Pili Pala (2006) a Random Deaths and Custard (2007). Yn ogystal â llenydda y mae hi'n teithio Cymru fel storïwraig ac yn cynnal gweithdai llenyddol mewn ysgolion. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd 2005.
Cysylltwch â ni i gadw lle, drwy ffonio 01766 523237 /522811 neu ebostio: olwen@tynewydd.org
http://www.tynewydd.org