TWM SION CATI - Sioe i'r teulu cyfan

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

TWM SION CATI - Sioe i'r teulu cyfan

Postiogan Carys Roberts » Llun 12 Hyd 2009 2:03 pm

Yn y sioe gerddorol lwyddiannus yma gan Gwmni Theatr Arad Goch mae cyfle i chi brofi bywyd Twm yn fyw ar lwyfan trwy storïa, canu ac ymladd! Cewch fynd ar daith gyffrous yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg i briffyrdd llawn lladron a pheryglon, pan oedd Twm yn ymladd anghyfiawnder gyda triciau doniol a champau drygionus. Heb os, mae Twm yn rhan o’n hetifeddiaeth - ac eleni, 400 mlynedd ers ei farw, gwelir ddathliadau i’w goffau. Dewch i ddathlu bywyd yr arwr gwerinol llawn sbort yma gyda awr o theatr hwyliog gan un o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Cymru. Dyma sioe i’r teulu a’r gymuned gyfan gyda cast dawnus - Ffion Wyn Bowen, Lowri Sion, Emyr Bell, Ioan Gwyn a MarK Roberts

31.10.09 Canolfan Gymunedol Pentrefoelas 7.00pm
Tocynnau / Tickets : 01690 770 289 (Marian Owen) 01690 770 254 (Lowri Clwyd)

2.11.09 Neuadd Talybont, Aberystwyth 7.00pm
Tocynnau / Tickets : 01970 823560 (Falyri Jenkins)

4.11.09 Theatr y Gromlech, Crymych 6.30pm
Tocynnau / Tickets : 01239 831 455

5.11.09 Canolfan y Celfyddydau Pontardawe 1.30pm
Swyddfa Docynnau / Box Office : 01792 863722

6.11.09 Neuadd Llangadog 1.30pm
Tocynnau / Tickets : 01558 825 336 (Menter Bro Dinefwr)

8.11.09 Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm 3.00pm
Swyddfa Docynnau / Box Office : 08700 40 2000

11.11.09 Coleg Glyndwr, Wrecsam 10.30am
Swyddfa Docynnau / Box Office : 01978 293306

12.11.09 Neuadd Ogwen, Bethesda 1.30pm & 6.30pm
Tocynnau /Tickets : 01248 601526 (Linda Brown)Neu 01248 600251 (Siop John)

13.11.09 Neuadd Dwyfor, Pwllheli 6.00pm
Swyddfa Docynnau / Box Office : 01758 704 088

14.11.09 Neuadd Tregaron 2.00pm
Tocynnau / Tickets : 01974 299038 (Cymunedau’n Gyntaf)

Am fwy o fanylion cysylltwch a Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth, Ceredigion / 01970 617998 / post@aradgoch.org
Carys Roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 09 Rhag 2008 11:57 am

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai