Mae pob gwyl May You Live in Interesting Times yn canolbwyntio ar thema benodol. Thema eleni yw DIY a gyda technoleg erbyn hyn yn rhan ganolog o fywyd bob dydd, r'yn ni wedi trefnu rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn edrych ar y modd y mae defnyddwyr a'r syniad o gyfrannu yn gyrru cynnwys digidol. Mae technoleg boblogaidd wedi galluogi unigolion a chymunedau i gysylltu â'i gilydd a rhannu gwybodaeth. Mae hyn wedi arwain at ffyrdd newydd o weithio – dulliau mwy agored a ffyrdd newydd o rannu a datrys problemau. Mae hyn, fel y gwelsom wrth fynd ati i roi'r rhaglen at ei gilydd, wedi arwain at brosiectau a syniadau diddorol sydd yn werth eu rhannu.
Mae thechnolegwyr creadigol yn arwain y ffordd o ran datblygu systemau cod agored a chynhyrchion sydd ar gael i bob un, gall unigolion a grwpiau bychain weithio gyda'i gilydd ar 'ddatblygu gwybodaeth ar y cyd’. Yn rhaglen yr wyl mae yna arddangosfeydd sydd yn mynd i'r afael a phroblemau lleol trwy gyfrwng rhwydweithiau byd-eang - Ghana ThinkTank - a digwyddiadau sydd yn agor caead y broses gomisiynu - The People Speaks, Who Wants to Be…?. Mae yna lawer o ddigwyddiadau lle gall pobl rannu'u syniadau. R'yn ni'n falch iawn o allu cynnal y Maker Faire cyntaf yng Nghymru ac mae unConference yn gofyn i'r rheiny fydd yn cymryd rhan arwain trafodaethau am dechnoleg. Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o weithdai dros y tridiau.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
Alfred Sirleaf: blogiwr analog o Liberia; Eddo Stern; Ghana ThinkTank; Micro Maker Faire cyntaf Cymru; The People Speak; unConference, a chomisiynau You May Fund gan artistiaid yng Nghymru.
Bydd yr wyl yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ac mewn llecynnau eraill o amgylch y ddinas.
Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.mayyouliveininterestingtimes ... dex_c.html