Nodiadau Maes - Cwrs Natur
Ionawr 22 - 24
gyda Jon Gower a Iolo Williams
Bydd taith gerdded leol yn rhoi cyfle i weld nad yw natur yn llwyr gysgu yn y gaeaf. I'r gwrthwyneb, dyma'r adeg prysuraf i nifer o adar ac anifeiliaid a bydd cyfle i sylwi arnynt a chymryd nodiadau er mwyn 'sgrifennu erthyglau o flaen y tân!
Yn ystod y penwythnos byddwn yn edrych ar wahanol fathau o 'sgrifennu am natur er mwyn ysbrydoli ac ysgogi sgwrs. Bydd cyfle i weithio ar y cyd ac yn unigol gyda digon o amser i gael adborth a cheisio gwella'r gwaith. Mae Jon a Iolo yn hen, hen ffrindiau a bydd 'na dipyn o hwyl yn ogystal 'chydig o waith, gyda'r ddau yn credu bod natur yn rhyfeddol. Bwriad y cwrs fydd creu geiriau i adlewyrchu hyn.
Jon Gower - Am bum mlynedd bu John Gower yn gweithio a byw gyda Iolo Williams ym mhencadlys y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yng Nghymru, yn y Drenewydd. Jon oedd gohebydd celfyddydau a'r cyfryngau i BBC Cymru rhwng 2000-2006. Mae wedi cyhoeddi naw llyfr gan gynnwys An Island Called Smith, enillydd Gwobr John Morgan. Ymddangosodd ei nofel gyntaf yn Gymraeg, Dala'r Llanw yn 2009.
Iolo Williams - Cafodd Iolo swydd gyda'r RSPB yn 1985 a bu'n gweithio yno am 14 mlynedd. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau yn ystod y cyfnod yma a gwneud enw iddo'i hun fel arbenigwr blaenllaw ar adar yng Nghymru. Y mae wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau ers 1999 ac wedi gweithio ar sawl cyfres gyda BBC Cymru gan gynnwys Wild Wales a Wild Winter. Mae Iolo hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar S4C gan gynnwys Gwyllt ar Grwydr a Iolo yn Rwsia.
Prisiau: £225 ('Stafell sengl); £200 (Rhannu 'stafell); £150 (Di-breswyl)
Cysylltwch i gadw lle: post@tynewydd.org 01766 522811
http://www.tynewydd.org